Pleidlais bost

 

Etholiad Senedd Cymru, 7 Mai 2026

Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer pleidlais bost ar gyfer etholiad y Senedd ydi 5pm, dydd Mawrth 21 Ebrill.

Mae’n rhaid i chi hefyd fod wedi cofrestru i bleidleisio.

Close

 

Mae pleidlais bost yn golygu bod papur pleidleisio yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad. Bydd angen i chi lenwi'r papur pleidleisio a'i anfon yn ôl i'r cyfeiriad sy'n cael ei nodi cyn yr etholiad.

Gall unrhyw un gael pleidlais bost heb roi rheswm. 

 

Gwneud cais am bleidlais bost

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am bleidlais bost ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post

 

Cwestiynau cyffredin

Beth ydw i'n ei wneud os nad ydw i'n derbyn fy mhapur pleidlais bost cyn yr etholiad?Dylech dderbyn eich papur pleidlais bost o leiaf wythnos cyn yr etholiad. Os nad ydych wedi derbyn eich papur cysylltwch â ni ar 01766 771000.

Rydw i wedi colli fy mhapur pleidlais bost. Fedra i gael un arall?
Cysylltwch â ni ar 01766 771000. 

Os ydw i wedi gwneud cais am bleidlais bost fedra i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod?
Na. Ond, gallwch fynd â'r papur pleidlais bost wedi ei lenwi i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr etholaeth rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod.  

Rydw i wedi gwneud camgymeriad ar fy mhapur pleidlais bost. Beth ydw i'n ei wneud?Cysylltwch â ni ar 01766 771000. 

Fedra i ganslo pleidlais bost cyn yr etholiad?
Cysylltwch â ni ar 01766 771000.