Gwaith comisiynydd yr heddlu a throseddu fydd sicrhau bod anghenion plismona eu cymunedau’n cael eu cwrdd mor effeithiol â phosibl, gan ddod â chymunedau’n agosach at yr heddlu, meithrin hyder yn y system ac adfer ymddiriedaeth.
Bydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf, ac yn rhoi i’r cyhoedd y gallu i sicrhau bod eu heddlu’n atebol.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch swydd comisiynydd yr heddlu a throseddu ynghyd â chyngor os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gael gan y
Swyddfa Gartref.