Perfformiad chwareus am fywyd a chariad merched Llangollen yn Storiel, Bangor.

Dyddiad: 07/06/2023
Eleanr and Sarah at Plas Newydd

Ar 24 Mehefin 2023, ac i ddathlu mis Balchder LHDT+, bydd y cwmni theatr Queer Tales from Wales yn cyflwyno perfformiad chwareus am fywyd a chariad merched Llangollen yn Storiel, Bangor.

Mae Queer Tales from Wales yn gwmni theatr meicro ger Machynlleth sydd yn cael ei arwain gan Jane Hoy. Mae Jane yn ymchwilio i straeon am ffigurau real a chwedlonol o hanes Cymru, ac yn troi’r straeon hyn yn sgriptiau bywiog y mae’n eu perfformio gyda’i phartner Helen Sandler – yn aml gyda chyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan.

Bydd y perfformiad o ‘Serch Benywaidd Anghyffredin: Bywyd a Chariad Merched Llangollen’ yn cael ei gynnal ar 24 Mehefin 2023 yn Storiel ac yn dechrau am 3pm.

Mae tocynnau yn £15 ac yn cynnwys tê a chacen. I archebu tocynnau ffoniwch Storiel ar 01248 353 368

Am fwy o wybodaeth am Storiel, ewch i www.storiel.cymru neu ffoniwch y rhif ffôn uchod.