Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn Neuadd Dwyfor a Llyfrgelloedd Gwynedd
Dyddiad: 29/09/2025
Bydd Neuadd Dwyfor, Pwllheli, yn ymuno â dathliadau ledled y byd ar Ddydd Mercher 1 Hydref 2025 i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, gyda dangosiad arbennig o’r ffilm emosiynol a phwerus On Swift Horses.
I gefnogi’r achlysur, bydd gostyngiad arbennig ar docynnau, gyda phris o £5 yn cynnwys diod gynnes am ddim i bawb dros 50 oed. Mae’r fenter hon yn rhan o ymrwymiad Neuadd Dwyfor i wneud y celfyddydau’n hygyrch i bawb.
Mae Neuadd Dwyfor yn cynnig dangosiadau rheolaidd ar foreau dydd Llun a phrynhawniau Mercher, yn ogystal â sesiynau pwrpasol ar gyfer y gymuned Dementia, gan greu profiad diwylliannol cynhwysol a chroesawgar.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Mae cefnogi mynediad i’r celfyddydau i bawb yn ein cymunedau yn rhan bwysig o raglen digwyddiadau Neuadd Dwyfor.”
“Mae dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn gyfle i ni ledaenu’r croeso a hyrwyddo gwasanaethau Neuadd Dwyfor - nid yn unig y rhaglen sinema a theatr, ond hefyd yr adnoddau eang sydd ar gael drwy’r gwasanaeth llyfrgell.”
Bydd llyfrgelloedd Gwynedd hefyd yn estyn croeso cynnes i bawb – gan gynnig paned, cyfle am sgwrs, gweithgareddau a chyfle i brofi casgliad newydd o Sachau Atgofion. Mae’r rhain yn cynnwys sachau synhwyraidd ar gyfer pobl â nam ar eu golwg neu eu clyw, a sachau llawn llyfrau, lluniau a gwrthrychau difyr o gyfnodau’r gorffennol. Gwiriwch amseroedd agor eich llyfrgell leol o flaen llaw a gofynnwch yn eich llyfrgell leol am fenthyg un o’r sachau.
Yn ôl yn Ebrill 2024 derbyniodd Gwynedd gydnabyddiaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd eu bod yn gweithio i ddod yn gymuned oed-gyfeillgar.
I nodi diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn eleni bydd prosiect newydd yn cael ei lansio i greu barddoniaeth gyda pobl hŷn gan adlewyrchu thema 2025 ‘Meithrin ymdeimlad o berthyn. Dathlu pŵer ein cysylltiadau cymdeithasol’.
Bydd y barddoniaeth yn gofnod o straeon pobl am bwysigrwydd cysylltiadau, ffrindiau, cymuned a pherthyn.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phencampwr Oed-Gyfeillgar Cyngor Gwynedd:
“Mae clywed lleisiau pobl hŷn am eu profiadau wrth heneiddio yn allweddol i ni yma yng Ngwynedd. Rydym yn ymfalchïo yn yr holl waith pontio’r cenedlaethau sy’n digwydd ar draws y sir, a’r cyfleoedd i ddod a phobl o bob oed at ei gilydd.
“Rydym am greu Gwynedd sy’n le braf i heneiddio ynddi, a byddwn yn annog unrhyw un i wneud y mwyaf o’r cynigion sydd ar gael yma ar ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.”
Am ragor o wybodaeth am Gwynedd Oed Gyfeillgar ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/oedgyfeillgar
Am ragor o wybodaeth am raglen digwyddiadau yn Neuadd Dwyfor ewch i: www.NeuaddDwyfor.cymru
Gwiriwch amseroedd agor eich llyfrgell leol yma: www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell