Concrid Awyredig Awtoclafiedig Atgyfnerthedig (RAAC) – diweddariad

Dyddiad: 14/09/2023

Yn unol a chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn cynnal asesiadau i wirio os ydi RAAC (Concrid Awyredig Awtoclafiedig Atgyfnerthedig) yn bresennol yn adeiladau ysgolion y sir.

 

Mae’r asesiadau hyn wedi eu cwblhau a gallwn gadarnhau nad yw RAAC yn bresennol yn ein hysgolion.

 

Mae gwaith wedi dechrau i wirio gweddill stoc adeiladau’r Cyngor a byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru ar y mater gan ddilyn eu canllawiau.

 

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni: