Concrid Awyredig Awtoclafiedig Atgyfnerthedig (RAAC)

Dyddiad: 08/09/2023
Yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â Choncrid Awyredig Awtoclafiedig Atgyfnerthedig (RAAC) (Llun, 4 Medi), mae gwaith yn bwrw mlaen i gadarnhau’r sefyllfa yn ysgolion Gwynedd ac rydym yn anelu i gwblhau’r gwaith yma cyn gynted a phosib 

 

Byddwn yn parhau i gydweithio â’r llywodraeth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn yn unol â’r canllawiau a’r gofynion cenedlaethol perthnasol.

 

Mae diogelwch holl ddefnyddwyr ein hadeiladau a’n staff yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd. Mae pob wedi agor yn ôl yr arfer ar gyfer y tymor newydd yr wythnos hon a byddwn yn darparu gwybodaeth pellach i randdeiliaid yn ôl yr angen.