Cabinet Cyngor Gwynedd yn cefnogi Economi sy'n Gweithio i Bawb Gwynedd 2035

Dyddiad: 13/03/2026

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cefnogi’r camau cyntaf tuag at fabwysiadu strategaeth economaidd newydd i Wynedd ‘Economi sy’n Gweithio i Bawb: Gwynedd 2035’.

Yn seiliedig ar fewnbwn gan bartneriaid a rhanddeiliaid, yn cynnwys mentrau, sefydliadau a’r trydydd sector, mae’r Strategaeth yn amlinellu gweledigaeth hirdymor a blaenoriaethau ar gyfer economi Gwynedd, sef:

“Economi arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cryfhau’r Gymraeg, yn creu cyfleoedd newydd ac yn cyfrannu at lesiant pawb.”

Mae’r weledigaeth yn rhoi pobl, cymunedau a mentrau Gwynedd yn ganolog. Er mwyn ei weithredu, mae tair thema wedi’u hadnabod: Mentergarwch, Pobl a Lle.

Mentergarwch - mentrau lleol llewyrchus sy’n rhagori

1. Uchafu gwerth ein heconomi bresennol

2. Gwneud y mwyaf o gyfleoedd newydd

Pobl - gweithlu medrus a chynhwysol

3. Sicrhau gweithlu medrus

4. Cefnogi ein pobl

Lle - yr amodau gorau i ffynnu

5. Y cysylltedd a’r isadeiledd gorau posibl

6. Lle gwych i fyw, gweithio a mentro

 Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Rydym eisiau economi sy’n rhoi cyfle i bobol Gwynedd fyw bywydau cyflawn a gwireddu eu llawn botensial; economi sy’n cryfhau’r iaith Gymraeg a’n hamgylchedd naturiol sy’n gwneud ein sir mor unigryw.

“Mae’r strategaeth hwn yn rhoi arweiniad clir a chryf ar gyfer llywio datblygiadau sy’n effeithio ar drigolion Gwynedd, a chadw buddion yn lleol. Bydd cydweithio â phartneriaid yn rhan greiddiol o’r weledigaeth.

Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:

“Mae digon o botensial yma – yn ein trigolion, ein cymunedau a’n entrepreneuriaid; ond nid yw’r potensial hwnnw yn cael ei wireddu bob tro. Rhaid creu economi sy’n dod â budd i bawb drwy greu cyflogaeth newydd, lleihau tlodi a gwella ansawdd bywyd ledled y sir.”

Yn dilyn derbyn cefnogaeth y Cabinet bydd cais i fabwysiadau’r Strategaeth yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Mai 2026.

I wireddu’r strategaeth bydd y Cyngor yn sefydlu Fforwm Economi Gwynedd. Bydd aelodaeth y Fforwm yn cynnwys sefydliadau sy’n cyfrannu at ffyniant yn lleol, a’r cyrff sy’n gweithio i ddatblygu economi yn lleol o bob sector a bob cwr o Wynedd.

Mae gwaith eisoes ar droed i lunio Cynllun Cyflawni sy’n ymateb i flaenoriaethau’r Strategaeth; bydd y Cynllun yn mapio gweithgareddau presennol ac yn fodd o adnabod prosiectau dymunir eu hariannu drwy law ffynonellau megis Cronfa Twf Lleol Llywodraeth Cymru, ac anogir unrhyw un gyda chynlluniau arfaethedig i ddod i gyswllt drwy anfon neges i TwfLleol@gwynedd.llyw.cymru.