Cyngor Gwynedd yn cynnig cyfleoedd swyddi Prentisiaethau a Graddedigion mewn meysydd newydd
Dyddiad: 01/05/2025
Mae cyfleoedd newydd a chyffrous ar gael i ddechrau gyrfa yng Ngwynedd fel rhan o gynllun swyddi Prentisiaethau a Chynllun Graddedigion Cyngor Gwynedd, Cynllun Yfory 2025.
Mae’r cynlluniau yma yn gyfle unigryw i ddatblygu llwybr gyrfa drwy weithio gyda phobl brofiadol, ennill cymwysterau gwerthfawr, a chael cyflog ar yr un pryd. Mae cyfanswm o 21 o swyddi ar gael eleni: 8 graddedigion a 13 prentis.
Cynllun Prentisiaid Cyngor Gwynedd
Cynigir gwahanol lefelau o brentisiaethau; o sylfaenol i lefel gradd, sy’n cynnig rhywbeth addas i bawb. Eleni, mae'r swyddi yn amrywio – o feysydd newydd fel Ynni, i Beirianneg Meddalwedd, Cyllid a Phensiynau, Mecanic, a gweithio gyda Chynghorwyr.
Meddai David Mark Lewis, Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol, Tai ac Eiddo sy’n cynnig cyfle prentisiaeth am y tro cyntaf:
“Bydd gallu cynnig prentisiaethau yn ein galluogi i gryfhau ein adnodd yn y maes pwysig a phrysur yma.
“Mae’n faes sy’n pontio sawl Gwasanaeth yn y Cyngor, boed hynny yn adeiladau, ynni adnewyddol, trafnidiaeth, gwastraff a thechnoleg gwybodaeth. Mae lleihau allyriadau carbon yn un o flaenoriaethau'r Cyngor, a byddai bod yn rhan o’r Tîm yma yn gyfle i wneud gwahaniaeth uniongyrchol i bobl Gwynedd trwy wella ein hamgylchedd ac arbed arian.
“Os oes pobl allan yna sydd â diddordeb yn y maes diddorol yma ac yn cael eu denu gan fuddion y Cynllun Prentisiaeth, byddwn yn eu hannog i roi cynnig arni.”
Mae Sean Davies wedi bod yn dilyn Cynllun Prentisiaeth y Cyngor, ac yn ddiweddar derbyniodd gymhwyster Lefel 2 mewn Arwain Gweithgareddau o dan ofal Byw’n Iach ac Urdd Gobaith Cymru. Mae Sean bellach wedi derbyn swydd llawn amser fel Cymhorthydd Hamdden (a Rheolwr ar Ddyletswydd) gyda Byw’n Iach. Meddai Sean:
“Fe roddodd y brentisiaeth gymaint o hyder i mi a hwb i fy ngyrfa. Heb y brentisiaeth, ‘dw i ddim yn meddwl y baswn i wedi derbyn yr amrywiol gyfleoedd i’m datblygu a hynny mewn cyfnod mor fyr.”
Cynllun Yfory
Trwy’r Cynllun Yfory, sef Cynllun Graddedigion y Cyngor, gall raddedigion newydd ddechrau eu gyrfa gyda’r Cyngor a datblygu arbenigedd mewn meysydd amrywiol, a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Rhoddir cyfle hefyd i ennill cymhwyster, fel arfer gradd meistr, fel rhan o’r swydd.
Mae’r cyfleoedd i raddedigion eleni yn cynnwys swyddi:
- Prosiectau Digidol
- Ecolegydd Cynllunio
- Iechyd yr Amgylchedd
- Cynllunio
- Newid Hinsawdd ac Amgylchedd Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru)
- Cyllid a Chyfrifeg
- Iechyd Diogelwch a Llesiant
- Trethi a Budd-daliadau
Dywedodd Elin sy’n hyfforddai proffesiynol Iechyd a Diogelwch Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC):
“Y budd mwyaf o’r cynllun o’m profiad i ydy cael cyflawni gwaith ymarferol wrth barhau gyda fy astudiaethau academaidd. Y cyngor gorau byswn i’n rhoi i ymgeiswyr ydi i beidio bod ofn gofyn cwestiynau! Mae pawb yn gyfeillgar ac yn barod i rannu profiadau ac arbenigedd, sydd yn gallu helpu chi i gael gwell syniad o’r maes a’r swydd dydd i ddydd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, Cyngor Gwynedd:
“Mae’r Cynllun Prentisiaethau a Cynllun Graddedigion yn rhywbeth rwyf yn falch iawn ein bod yn medru ei gynnig yma yng Ngwynedd. Fel Cyngor, rydan ni eisiau sicrhau swyddi da i bobl y sir a diolch i’r cynlluniau yma mae llawer o drigolion Gwynedd wedi cael y cyfle i gychwyn gyrfa a chael cymwysterau o werthar yr un pryd, mewn amgylchedd naturiol Gymraeg.
“Os ydych chi’n chwilio am y cyfle perffaith i ddatblygu eich gyrfa yng Ngwynedd ond ddim yn siŵr lle i ddechrau, gall y cyfleoedd hyn fod y cam nesaf i chi. Ewch amdani!”
Dyddiad cau ar gyfer yr holl swyddi yw 8 Mai, 2025.
Mae manylion llawn a rhagor o wybodaeth ar sut i wneud cais am swydd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd.
Prentisiaethau: www.gwynedd.llyw.cymru/prentisiaethau
Cynllun Yfory Cynllun Graddedigion: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory