Dweud eich dweud ar Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 09/10/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn y cyhoedd ar ddrafft o Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Gwynedd a fydd yn siapio gwasanaethau lleol ar gyfer y cyfnod hyd at 2030. Bydd yr arolwg hefyd yn rhoi cyfle i rannu barn am y gwasanaethau fel y maen nhw rwan a chlywed syniadau am y dyfodol.

Mae’r strategaeth yn gosod gweledigaeth am sut mae’r Cyngor yn awyddus i gydweithio efo trigolion y sir a phartneriaid allweddol eraill i leihau gwastraff wrth gynyddu ailddefnyddio a’r economi gylchol, gwella cyfraddau ailgylchu, ac uwchraddio gwasanaethau gwastraff yma yng Ngwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Amgylchedd:

“Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn ailgylchu yng Ngwynedd – o 55% i 65% – diolch i ymdrechion ein trigolion, busnesau a chymunedau.

“Ond rydym wedi cyrraedd pwynt rwan lle mae angen i ni gyd ailfeddwl sut rydym yn trin gwastraff – nid fel problem, ond fel adnodd gwerthfawr.

“Mae dros hanner cynnwys biniau gwyrdd a bagiau duon yn eitemau fyddai’n gallu cael eu hailgylchu drwy wasanaethau sydd eisoes ar gael gan y Cyngor. Mae’r Strategaeth hon yn gosod cyfeiriad at ddyfodol gwyrddach lle rydym yn ailddefnyddio a thrwsio yn hytrach na thaflu’n syth i’r bin fel sbwriel.

“O’i wneud o ddifrif, bydd datblygu economi gylchol leol nid yn unig yn lleihau ein heffaith amgylcheddol, ond yn cynnig budd economaidd a chymdeithasol.

“Mae’r daith yn dechrau yma – gyda’r Strategaeth hon yn nodi ein hymrwymiad fel Cyngor i gyflawni’r uchelgais hon, a thrwy hynny ein galluogi i gyrraedd targed statudol y Llywodraeth o ailgylchu 70% o’r deunyddiau’r ydym yn ei gasglu.

“Wrth gwrs, mae gwella ein gwasanaethau yn broses barhaus ac rydym yn datblygu cynlluniau manwl i gefnogi’r Strategaeth. Gall hynny olygu addasu rhai agweddau ar y ddogfen wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen, ac wrth ystyried mewnbwn gwerthfawr pobl Gwynedd yn ystod yr arolwg.

“Rydym am glywed barn pobl am y gwasanaethau fel y maen nhw rwan, ac am y cynlluniau am sut allwn barhau i wella.

“Bydd eich sylwadau chi yn bwysig iawn wrth i ni gytuno ar Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu terfynol ar gyfer Gwynedd am y blynyddoedd i ddod.”

Nod y strategaeth fydd paratoi'r gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer y cyfleoedd a heriau yn y dyfodol, gyda phrif amcanion o:

  • Leihau gwastraff cyffredinol a chynyddu ailddefnyddio a thrwsio.
  • Cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu, ailddefnyddio a chompostio 70% o’n gwastraff.
  • Cefnogi ffyniant economi gylchol leol gynaliadwy, a fydd yn creu swyddi gwyrdd ac yn dod â manteision ehangach i Wynedd.
  • Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’r cyhoedd, ble mae iechyd, diogelwch, lles a gwerthoedd ein staff, ynghyd â gofal a boddhad cwsmer, yn ganolog i’n hegwyddorion craidd.
  • Dod yn wasanaeth Carbon Sero Net erbyn 2030.
  • Buddsoddi yn ein hisadeiledd gwastraff er mwyn ymdopi gydag anghenion a datblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

I gymryd rhan yn yr arolwg ac i ddarllen y Strategaeth ddrafft, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/arolwggwastraff. Bydd copïau papur ar gael o Siopau Gwynedd a Llyfrgelloedd y sir, neu drwy ffonio 01766 771000.

Dyddiau cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 30 Tachwedd 2025.