Cyngor Gwynedd yn mynd i'r afael ag adeiladau gwag ar Stryd Fawr Bangor
Dyddiad: 17/10/2025
Bydd £2.25 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn adfywio Stryd Fawr Bangor drwy ddenu busnesau newydd, annog ymwelwyr a darparu mwy o gartrefi lleol.
Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau bron i £1 filiwn o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i weithredu Cynllun Peilot Menter Eiddo Gwag yn y ddinas. Ynghyd â chefnogaeth o Gronfa Benthyciadau Canol Tref Cyngor Gwynedd, arian Llywodraeth Cymru a chyfraniadau gan y sector preifat, bydd y cam nesaf yn y cynllun i fynd i’r afael a’r nifer fawr o eiddo gwag yng nghanol y ddinas yn cael ei wireddu.
Yn anffodus, fel nifer fawr o drefi a dinasoedd eraill ledled Prydain, mae Bangor wedi gweld cynnydd yn y nifer o siopau gwag dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ers y cyfnod Covid. Mae ansawdd nifer o’r adeiladau hefyd wedi dirywio gydag amser ac mae’r cyfuniad hwn wedi arwain at bryder am edrychiad a theimlad y Stryd Fawr.
Er mwyn taclo hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu cofrestr o eiddo gwag ac wedi cysylltu’n uniongyrchol â’u perchnogion, sydd wedi adrodd fod diffyg cefnogaeth ariannol yn rwystr iddynt fedru ail-ddatblygu.
Gyda chyllid Llywodraeth Cymru bellach wedi’i sicrhau, gall Cyngor Gwynedd ddechrau cyd-weithio gyda’r perchnogion a ymgysylltodd gyda’r Cynllun Peilot i gefnogi prosiectau i ddatblygu eiddo. Bydd grantiau o hyd at £200,000 ar gael i’r perchnogion hynny sy’n rhan o’r cynllun peilot – ac sydd wedi bod mewn sgyrsiau parhaol dros y misoedd diwethaf – er mwyn adnewyddu ac addasu eu hadeiladau a felly denu busnesau a thenantiaid newydd.
Gobaith y cynllun peilot yw annog mwy o ddefnydd cymysg o adeiladau’r Stryd Fawr – hynny yw helpu perchnogion adeiladau i’w ailddatblygu i fod yn gyfuniad o unedau masnachol fel siopau a chaffis ar y llawr gwaelod gyda fflatiau ar y lloriau uchaf. Bydd hyn yn helpu i ddod a bwrlwm newydd i’r Stryd Fawr ac adfywio canol y ddinas yn y tymor hir.
Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a’r Gymuned:
“Mae eiddo gwag yn parhau i fod yn her fawr i’n trefi a’n cymunedau, ac nid yw hyn yn fwy amlwg nag yn unig ddinas Gwynedd a’i chanolfan isranbarthol bwysig. Mae’r fenter hon yn gam sylweddol ymlaen i fynd i’r afael â’r materion hyn drwy weithio’n agos â pherchnogion eiddo ac ailsefydlu sianeli cyfathrebu a allai fod wedi bod ar goll yn y gorffennol.
“Ein gobaith yw y bydd Menter Eiddo Gwag Bangor nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol yn adfywio Bangor, ond hefyd yn creu model y gellir ei efelychu ledled Gwynedd.”
Mae Menter Eiddo Gwag Bangor yn cael ei chyflwyno gan Gyngor Gwynedd fel rhan o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy’n buddsoddi yn adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru.
Dywedodd Ysgrifenydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:
“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Menter Eiddo Gwag Bangor. Menter fydd yn dod â buddion parhaol i bobl leol, busnesau ac i ymwelwyr – yn sicrhau adfywiad cynaliadwy o ein cymunedau, sydd ei hangen ac yn haeddu.”
“Mae strategaeth adfywio Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys ym Mangor, drwy ddod â rhagor o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd gweithredol ac adfywio ein canol trefi a dinasoedd.”
Nodiadau
- Mae Cynllun Peilot Menter Eiddo Gwag yn cyd-fynd â Chynllun Creu Lleoedd Bangor (2023), sy’n blaenoriaethu mynd i’r afael ag eiddo gwag fel cam allweddol tuag at greu canol dinas fywiog, cynaliadwy a chroesawgar.
- Mae’r Cynllun yn ychwanegol i gynllunio adfywio eraill sydd ar y gweill ym Mangor, gan gynnwys Cynllun Canolfan Iechyd a Lles Bangor.
- Mae mwy o wybodaeth am y cylluniau hyn ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Strategaeth a gweledigaeth Bangor