Strategaeth a gweledigaeth Bangor
Mae Bangor yn ganolfan is-ranbarthol i Ogledd Cymru, sy’n enwog am ei hanes a’i gymuned fywiog. Yn anffodus, mae’r ddinas nawr yn wynebu nifer o heriau economaidd, gan gynnwys yr angen i ddatblygu ffyniant, mynd i’r afael â dirywiad hirdymor, a gwella bywiogrwydd.
Mewn ymateb, mae Cyngor Gwynedd, gyda nifer o rhanddeiliaid, wedi datblygu Cynllun Creu Lleoledd fel rhan o’i ymdrechion adfywio. Mae’r cynllun hwn yn darparu fframwaith cydlynol ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau hyn trwy gyfres o brosiectau arloesol ac effeithiol.
Dogfennau Strategol Presennol
Dogfennau Strategol Blaenorol
Prosiectau Adfywio Presennol
Hwb Iechyd a Lles Bangor
Mae Hwb Iechyd a Lles Bangor yn brosiect uchelgeisiol a allai ddod â buddion sylweddol i’r gymuned leol. Mae’n brosiect cydweithredol rhwng Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda’r nod o adleoli rhai gwasanaethau iechyd o Ysbyty Gwynedd i uned wag ar Stryd Fawr Bangor. Ar hyn o bryd, mae’r fenter yn parhau yn y cam cynllunio. Os caiff ei chymeradwyo, mae ganddi’r gallu i wella mynediad l at wasanaethau iechyd a lles, tra hefyd yn cyfrannu at adfywio canol y ddinas.
Canolfan Addysg Oedolion Coleg Llandrillo Menai
Mae Grŵp Llandrillo Menai (GLLM) wedi trawsnewid hen adeilad "Topshop" ar Stryd Fawr Bangor yn Tŷ Cyfle Bangor, Hwb Addysg a Chymunedol. Gyda chefnogaeth y gronfa Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a'r gronfa adfywio Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae’r cyfleuster hwn yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni addysg a hyfforddiant, ynghyd â gwasanaethau cymorth personol i wella sgiliau cyflogaeth, sefydlogrwydd ariannol a llesiant. Drwy adfywio safle a oedd yn wag o’r blaen, mae Tŷ Cyfle Bangor wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr a’r gweithgarwch economaidd ar Stryd Fawr Bangor, gan gefnogi busnesau lleol ac cyfrannu at ddatblygiad economaidd yr ardal.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: Tŷ Cyfle - Bangor | Grŵp Llandrillo Menai (gwefan allanol)
Mae Prifysgol Bangor wedi gweithio gyda Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru i uwchraddio Parc y Coleg ym Mangor.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: Parc y Coleg (gwefan allanol)
Prosiectau Adfywio wedi eu cwblhau
I ddarllen am y brosiect yma, ewch i: 137 Stryd Fawr (gwefan allanol)
I ddarllen am ddatblygiad Y Nyth gan Frân Wen, ewch i:
Y Nyth gan Frân Wen (gwefan allanol)
Nod prosiect Trawsnewid Trefi Storiel oedd gwella mannau awyr agored yr amgueddfa a’r oriel gelf, er mwyn creu ardal fwy deniadol a chroesawgar. Wedi’i ariannu’n rhannol gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, cyflawnodd y prosiect welliannau allweddol gan gynnwys gosod seddi awyr agored o amgylch y mannau gwyrdd a chyflwyno elfennau artistig fel pyst wedi’u paentio, disgiau derw, cerrig marmor a phlannu coed newydd. Gosodwyd bwrdd digidol awyr agored i hyrwyddo digwyddiadau, a gosodwyd goleuo i amlygu nodweddion pensaernïol yr adeilad. Gwnaed hefyd welliannau i arwyddion a nodweddion brandio’r llwybrau o fewn a thu allan i Storiel. O ganlyniad i’r gwelliannau hyn, mae Storiel wedi dod yn fwy gweladwy, gan ddenu ymwelwyr lleol a thwristiaid fel ei gilydd.
Arweiniwyd Prosiect Arwyddion Bangor gan Gyngor Gwynedd gyda’r nod o ddiweddaru system fynegbyst y ddinas drwy osod 19 o byst cyfeirio newydd a disodli 5 presennol. Gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae’r fenter hon yn gwella gwelededd a mynediad at safleoedd allweddol fel Pier Bangor, Prifysgol Bangor a’r Gadeirlan, gan eu gwneud yn fwy hygyrch i drigolion ac ymwelwyr. Mae arwyddion gwell hefyd yn hybu twristiaeth leol, yn cefnogi busnesau cyfagos ac yn ysgogi twf economaidd. Yn ogystal, mae’r prosiect yn cryfhau hunaniaeth Bangor, yn adfywio’r amgylchedd trefol, ac yn gwneud y ddinas yn fwy croesawgar a hawdd ei llywio.
Cylchlythyr: Diweddariadau Prosiectau (Mai 2025)
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:
-
E-bost: adfywio@gwynedd.llyw.cymru
-
Ffôn: 01286 679 545
-
Cyfeiriad post: Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH