Trafod cymorth i deuluoedd yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwynedd

Dyddiad: 18/04/2023

Mae disgwyl i fwy na 140 o blant yn ychwanegol yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwynedd gael budd o ofal plant am ddim, os bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo argymhelliad i ymestyn cynllun Dechrau’n Deg o fewn y sir.

 

Os bydd y Cabinet yn rhoi sêl bendith i’r cais yn ei gyfarfod ar 25 Ebrill 2023, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £630,000 drwy ei Grant Plant a Chymunedauer mwyn ymestyn mynediad i ofal plant. Bydd Cam Dau y cynllun yn cynnig gofal i blant dyflwydd mewn mwy o ardaloedd o fewn Caernarfon, Dyffryn Nantlle, Pwllheli, Porthmadog, Abermaw, Y Bala a Bro Ffestiniog.

 

Mae cynllun Dechrau’n Deg yn cael ei redeg yn lleol yng Ngwynedd gan Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd y Cyngor. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun Dechrau’n Deg yng Ngwynedd ar gael ar wefan y Cyngor: Dechrau'n Deg (llyw.cymru)

 

Bydd y buddsoddiad yn caniatáu ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd, ac yn rhoi hwb i deuluoedd ble mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu angen cefnogaeth er mwyn gallu gweithio.

 

Os bydd y Cabinet yn cefnogi’r argymhellion, bydd y Cyngor hefyd yn mynd ati i ddatblygu adeiladau pwrpasol er mwyn helpu teuluoedd gyda gofal plant yn y blynyddoedd cynnar yn Neiniolen, Bangor a Phenygroes

 

Dros amser, bydd y cynlluniau amrywiol hyn yn caniatáu ehangu’r ddarpariaeth gofal plant i rai rhwng dwy a phedair oed drwy’r sir a hynny er mwyn rhoi y cychwyn gorau i blant a cryfhau’r  ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd:

 

“Rydw i’n cefnogi’r bwriad yma a bydd symud i Gam Dau Dechrau’n Deg yn newyddion da i blant ac hefyd i’w teuluoedd. Mae cael mynediad i ofal plant da yn lleol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i ddatblygiad plentyn a gall y cymorth yma roi hwb i’w rhieni wrth iddynt ddechrau meddwl am ddychwelyd i hyfforddiant neu waith.

 

“Mae cynllun Dechrau’n Deg eisoes yn targedu’r ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir a dwi’n falch fod cynlluniau mewn lle er mwyn ei ymestyn i ychwaneg o gymunedau. Bydd yn mynd i’r afael ag amddifadedd ac yn helpu i lenwi’r bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant sydd ar gael i rieni plant bach.

 

“Mae’n wych meddwl bydd oddeutu 140 o blant ychwanegol yn cael mynediad i’r cynllun.

 

“Mae swyddogion y Cyngor yn gweithio ar gynlluniau manwl er mwyn gwneud yn siŵr fod y ddarpariaeth a’r staff yn eu lle er mwyn dod a’r cynllun yma yn realiti, a dwi’n edrych ymlaen i weld y plant ychwanegol yn cael budd o ofal plant yn rhad ac am ddim.”

 

Mae cynllun Dechrau’n Deg yn targedu’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y sir, yn seiliedig ar ddata Llywodraeth Cymru. Bydd hyblygrwydd o fewn ail wedd y cynllun er mwyn cynnwys teuluoedd sy’n byw tu hwnt i ffiniau daearyddol yr ardaloedd penodedig ond mae’r awdurdodau yn credu eu  bod yn gymwys. 

 

Os bydd Cabinet y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhelliad, bydd trefn yn cael ei rhoi mewn lle i roi gwybod i deuluoedd cymwys sut mae gwneud cais am gymorth maes o law, ac yn cael ei hyrwyddo’n lleol.