Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

Dyddiad: 07/02/2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda’i gilydd ac mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru wedi cyhoeddi y gall sefydliadau nawr gyflwyno eu ceisiadau cychwynnol ar gyfer arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yng Ngogledd Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2022, cadarnhaodd Llywodraeth y DU fod cais rhanbarth Gogledd Cymru i gael mynediad at ei UKSPF wedi’i ddilysu gan alluogi mynediad at y £126.46 miliwn sydd wedi’i ddyrannu i’r rhanbarth tan fis Mawrth 2025.

Ers hynny, mae chwe awdurdod lleol y rhanbarth ac Uchelgais Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i roi'r holl drefniadau yn eu lle i alluogi sefydliadau i ddod â'u syniadau sydd angen cyllid ymlaen.

Mae sefydliadau sy’n ceisio cyllid UKSPF o £250,000 neu fwy i weithredu prosiect mewn un neu fwy o ardaloedd awdurdodau lleol Gogledd Cymru bellach yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais amlinellol erbyn canol dydd ddydd Gwener, 24 Chwefror 2023.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd - gan gynnwys y pethau pwysig y dylai sefydliadau feddwl amdanynt cyn gwneud cais - ar gael oddi wrth:

Gogledd Cymru

Ynys Môn

Gwynedd

Conwy

Sir Ddinbych

Sir y Fflint

Wrecsam

Nodiadau i olygyddion:

a)   Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder yn ei lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU buddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

b)   Bydd yr UKSPF yn cael ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yng Ngogledd Cymru gan gydweithio ac mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru. Bydd Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel awdurdod arweiniol ar ran y chwe Chyngor.