Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd

Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.

Nod cyffredinol y Gronfa yw:

Meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Nod yr UKSPF yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle;
  • Cefnogi Busnes Lleol; a,
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion)

Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa a gellir ei weld yma:

Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r Gronfa a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gael yma:

Dogfennaeth Ffyniant Bro a Buddsoddiadau Cymunedol 

 

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd

Bydd pob rhan o’r DU yn cael rhywfaint o’r cyllid, sy’n cael ei ddyrannu i ardaloedd unigol yn seiliedig ar fformiwla. Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am weithredu'r Gronfa.

Yng Nghymru, rhaid i ardaloedd lleol weithio gydag eraill o fewn eu rhanbarth i ddarparu'r Gronfa. Mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae cyfanswm o £126.46[1] miliwn wedi'i ddyrannu o'r UKSPF i Ogledd Cymru. Mae'r cyfanswm yn cynnwys £21.84[1] miliwn y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi).

Y dyraniad ar gyfer Gwynedd yw £24,423,747, mae £4,217,756 o'r cyfanswm wedi ei warchod ar gyfer y rhaglen Lluosi.

Mae’r cyllid yn cynnwys arian cyfalaf a refeniw ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2025.

Ar 5 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod ein cais ar gyfer yr arian wedi ei ddilysu. Ond, dim ond am un flwyddyn ariannol ar y tro y bydd yr arian yn cael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU.

 

Cyflawni'r UKSPF yng Ngwynedd

Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, bydd Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda'u gilydd i weinyddu'r UKSPF. Fodd bynnag, bydd pob penderfyniad ar ble mae'r arian yn mynd yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal.

Bydd y rhan fwyaf o'r arian yn cael ei ddosbarthu drwy grantiau i gefnogi sefydliadau i gyflawni prosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau lleol.

Mae’r cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau am gyllid bellach ar agor a bydd yn cau am hanner dydd ar 24 Chwefror 2023Mae'n bosib y bydd cyfleoedd yn y dyfodol i gyflwyno ceisiadau pellach - ar gyfer pob un neu rai meysydd gweithgaredd - os bydd arian yn parhau i fod ar gael.

Cyngor Gwynedd fydd yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gyda chyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol.

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am brosiectau sy'n cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol neu fwy. Bydd pob ardal yn penderfynu a ydynt am gefnogi cais neu ddim.

 

Yr hyn y bydd yr UKSPF yn ei gefnogi

Amlinellir yr amcanion ar gyfer tair blaenoriaeth buddsoddi'r UKSPF – cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau – ym Mhrosbectws yr UKSPF:

Prosbectws yr UKSPF

Ar gyfer Cymru, caniateir 53 o ymyriadau UKSPF sy’n cwmpasu’r tair blaenoriaeth fuddsoddi a’r rhaglen Lluosi:

Rhestr Ymyriadau ar gyfer Cymru

 

Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan yr UKSPF fynd i'r afael ag un, neu fwy, o'r ymyriadau hyn.

Rhaid i bob prosiect hefyd gyflawni un neu fwy o’r allbynnau a’r canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU:

Ymyriadau, Amcanion, Canlyniadau ac Allbynnau – Cymru 

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: diffiniadau o allbynnau a chanlyniadau 

 

Er mwyn darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl, bydd Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn caniatáu i ymgeiswyr ddewis unrhyw un o'r allbynnau a'r canlyniadau a restrir sy'n berthnasol i'r flaenoriaeth / blaenoriaethau buddsoddi y mae eu prosiect yn mynd i'r afael â hwy.

Yn ogystal â dangos aliniad â’r UKSPF ei hun, rhaid i brosiectau sy’n ceisio cymorth yng Ngwynedd:

  • dangos sut y maent yn ychwanegu gwerth at, ac wedi eu hintegreiddio â, gweithgaredd cyfredol ac arfaethedig yn y maes perthnasol, gan osgoi dyblygu
  • fod wedi ymgysylltu â, a derbyn cefnogaeth gan, rhanddeiliaid perthnasol yn y maes gweithgaredd a'r ardaloedd y byddant yn gweithredu ynddynt
  • helpu i wireddu - neu fod yn gydnaws â - polisïau a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol; a
  • deall a mynd i'r afael ag anghenion yr ardaloedd lleol y maent yn bwriadu gweithredu ynddynt a helpu i wireddu'r blaenoriaethau / strategaethau lleol perthnasol

 

Mae'r strategaethau a chynlluniau yng Ngwynedd all fod yn berthnasol yn cynnwys (dim yn rhestr gyflawn):

Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 - Adolygiad 2022/23 (Cyngor Gwynedd, 2022)

Asesiad Llesiant Gwynedd (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, 2022) 

Cynllun Llesiant Drafft Gwynedd a Môn 2023-2028 (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, 2023) 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 Cyngor Gwynedd (Cyngor Gwynedd, 2020)

Cynllun Eryri - Cynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Eryri (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, 2020)

 

Gellir crynhoi'r hyn sy'n gyffredin i'r uchod fel a ganlyn: 

  • Cefnogi cymunedau i arwain ar welliannau lleol 
  • Creu cyfleoedd i bobl o bob oedran dod ynghyd i gyfoethogi’u bywydau 
  • Gwella’r Stryd Fawr a Chanol Masnachol Trefi 
  • Gwella mynediad at wasanaethau  
  • Sicrhau fod gan busnesau bach a chanolig y Sir yr adnoddau a’r gwybodaeth i lwyddo ac i dyfu a chynnig swyddi o ansawdd 
  • Darparu’r sgiliau a hyfforddiant cywir i elwa pobl a busnesau 
  • Defnyddio diwylliant, treftadaeth, amgylchedd a iaith y Sir i adfywio’r economi 
  • Mwynhad cynaliadwy o amgylchedd Gwynedd 

Pethau pwysig i'w gwybod

  • Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni'r UKSPF yn fyr; yn ymarferol, bydd angen bob prosiect ddod i ben a chyflwyno'u hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024 , er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen.
  • O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, bydd Awdurdodau Lleol yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ceisio o leiaf £250,000 o arian UKSPF; mae'r Awdurdodau Lleol yn rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd prosiectau a gefnogir yn ceisio £1 miliwn neu fwy o arian UKSPF.
  • I alluogi busnesau, sefydliadau a chymunedau lleol sy'n ceisio symiau llai o gymorth cael mynediad at arian UKSPF; bydd Cyngor Gwynedd a'r mwyafrif o siroedd eraill yn ceisio sefydlu cronfeydd cyfryngol yn lleol, gan ddarparu trefn ymgeisio, cymeradwyo a monitro symlach. Bydd mwy o wybodaeth am y cronfeydd ar gael yn fuan.
  • Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyraniadau UKSPF ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2025, dim ond yn flynyddol y caiff y cyllid ei gadarnhau. Bydd y cytundebau ariannu a ddarperir gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru i ymgeiswyr llwyddiannus yn adlewyrchu hyn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n ymrwymo i wariant y tu hwnt i’r cyfnod y caiff cyllid ei gadarnhau ar ei gyfer yn gwneud hynny ar ei risg eu hunain.
  • Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan yr UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Gall ymgeiswyr felly gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu ceisiadau. Nodwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn arwyddo cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar risg eu hunain.
  • Mae’r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuniad o'r ddau.
  • Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y drefn: Trefn Rheoli Cymorthdaliadau y DU
  • O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflawni’r UKSPF, bydd hyder yn y gallu cynigion a gyflwynir i gyflawni yn ystyriaeth allweddol i Awdurdodau Lleol ochr yn ochr â chapasiti a gallu'r sefydliad sy’n ymgeisio.

 

Dewis prosiectau

Bydd Cyngor Gwynedd yn dewis pa brosiectau fydd yn derbyn arian gyda chyngor gan bartneriaeth o rhanddeiliaid lleol; Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd.

Mae'r Grŵp Ymgynghorol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat, addysg a'r drydedd sector gan adlewyrchu'r ystod o weithgaredd sydd yn bosib drwy law'r UKSPF.  Mae'r aelodaeth yn cynnwys:

  • Cyngor Gwynedd
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Grŵp Llandrillo-Menai
  • Prifysgol Bangor
  • Awdurdod Iechyd Betsi Cadwaladr
  • Mantell Gwynedd
  • Cymdeithasau Tai Cymdeithasol Gwynedd
  • Rhwydwaith Mentrau Cymunedol Gwynedd
  • Partneriaeth Twristiaeth Gynaliadwy Gwynedd
  • Y Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Rhwydwaith Busnes Gwynedd

Bydd ystyriaethau allweddol y Grŵp Ymgynghorol a Cyngor Gwynedd wrth ddewis cynlluniau yn cynnwys:

  • aliniad cynigion â buddsoddiadau ac ymyriadau â blaenoriaeth yr UKSPF;
  • allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cynigion;
  • ychwanegoldeb ac aliniad prosiectau arfaethedig gyda gweithgaredd presennol a gweithgaredd arfaethedig;
  • y gallu i gyflawni a chapasiti / gallu'r ymgeisydd (gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a rheoliadol); a,
  • aliniad cynigion gydag anghenion cenedlaethol, rhanbarthol ac, yn fwyaf arbennig, lleol.

Bydd y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir hefyd yn cael ei ystyried ac fe geisir barn rhaddeiliaid o fewn y maes gweithgaredd mae'r prosiect am weithio ynddo.

 

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau am gyllid UKSPF yng Ngwynedd yn dilyn proses dau gam.  Bydd pob Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn dilyn trefn debyg:

Cam 1 : cyflwyno cais prosiect amlinellol

Cam 2 : cyflwyno cais prosiect manwl

Bydd Cyngor Gwynedd yn blaenoriaethu ac yn dewis prosiectau ar sail eu cais amlinellol cam 1.

Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais manwl cam 2, fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnig. Bydd cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ôl gwerthuso cais manwl cam 2.

I gyflwyno cais prosiect amlinellol cam 1:

Diweddaraf – Mae’r gronfa bellach wedi cau a nid oes modd derbyn ceisiadau

 

Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau fydd:

  1. Bydd y cais yn cael ei werthuso gan dîm Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd.
  2. Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
  3. Bydd Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i law ac yn gwneud argymhellion i Cyngor Gwynedd.
  4. Cyngor Gwynedd yn penderfynu pa brosiectau dylid eu cefnogi
  5. Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.
  6. Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2
  7. Wedi i'r ceisiadau prosiect manwl cam 2 gael eu derbyn; asesiadau pellach  a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
  8. Cyngor Gwynedd yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais
  9. Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm rhanbarthol ar ran Cyngor Gwynedd.

Bydd Cyngor Gwynedd yn anelu i gwblhau gwerthuso a dewis ceisiadau cryno gwedd 1 sydd wedi eu cyflwyno cyn hanner dydd ddydd Gwener, 24 Chwefror 2023 erbyn diwedd Mawrth 2023.

Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi’r Cyngor i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd canlynol:

Hysbysiad preifatrwydd

 

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich cynnig, cysylltwch â:

FfyniantBroDU@gwynedd.llyw.cymru  

Os yn ystyried cyflwyno cais fydd yn gweithredu ar draws mwy nac un ardal Awdurdod Lleol, ymwelwch â:

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

 

[1]Mae £4.44 miliwn o'r cyfanswm yn amodol ar gadarnhad

 

Logo Ffyniant Bro  Logo Llywodraeth