Teyrnged i'r diweddar W. Tudor Owen
Dyddiad: 27/08/2025
Mae Cyngor Gwynedd wedi talu teyrnged i’r cyn-gynghorydd W. Tudor Owen a fu farw dros y penwythnos.
Roedd yn cynrychioli ward Peblig ar Gyngor Gwynedd rhwng Mai 1996 a Mai 2017, a bu’n Gadeirydd y Cyngor rhwng 2010-11. Bu’n aelod o’r hen Gyngor Arfon cyn sefydlu Cyngor Gwynedd yn 1996.
Meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Cadeirydd Cyngor Gwynedd:
“Roedd yn ddrwg iawn gennym glywed fod Tudor Owen wedi ein gadael. Roedd yn berson hwyliog, bob amser gyda gwen ar ei wyneb ac amser i bawb.
“Gweithiodd yn galed dros Gaernarfon, ei dref enedigol, ac yn benodol dros ward Peblig. Dangosodd ymroddiad rhyfeddol dros nifer o flynyddoedd i Ganolfan Noddfa ac mae pobl Caernarfon yn parhau i gael budd o’i waith hyd heddiw.
“Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Tudor ar yr adeg anodd hyn.”