Mwy o drigolion Gwynedd bellach yn gymwys am grant i adnewyddu tai gwag

Dyddiad: 04/08/2025

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau sylweddol i’w Gynllun Grantiau Cartrefi Gwag fel rhan o’i ymdrechion parhaus i ddod â thai gwag y sir yn ôl i ddefnydd ac i ddwylo pobl leol.

O 1 Awst, mae’r uchafswm sydd ar gael drwy'r cynllun grantiau wedi cynyddu o £20,000 i £25,000. Mae’r trothwy incwm, a oedd gynt yn £60,000 y cartref, bellach yn cael ei osod ar £60,000 yr unigolyn neu £80,000 y cwpl, gan gydnabod y cynnydd cyffredinol mewn cyflogau.

Mae’r dull ar gyfer penderfynu pa eiddo sy'n gymwys ar gyfer y grant hefyd wedi newid. Yn hytrach na defnyddio cost yr eiddo fel sail, bydd y system newydd yn defnyddio’r Band Treth Cyngor. Mae hyn yn golygu bod unrhyw gartref ym mandiau A i D bellach yn gymwys ar gyfer y grant.

Bwriad y cynllun, sydd wedi bod yn weithredol ers 2021, yw dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd trwy gynnig grant i adnewyddu cartrefi i safon byw dderbyniol. Mae’r grant ar gael i adnewyddu tai sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy, a thai segur a fu’n arfer bod yn ail gartrefi – hynny yw, eiddo lle’r oedd disgwyl i’r perchennog dalu Premiwm Treth Cyngor. Hyd yn hyn, mae’r grant wedi helpu i ddod â 112 o dai yn ôl i ddefnydd, ac ar gyfartaledd, mae’r grantiau yn cefnogi 3.5 contractwr lleol ar bob cais.

Ariennir y cynllun gwerth £4.7 miliwn gan gyllid o Bremiwm Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi a Thai Gwag ac mae eisoes wedi helpu 215 o drigolion trwy Wynedd.  Dyma un o 30 prosiect yng Nghynllun Gweithredu Tai gwerth £197 miliwn y Cyngor i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.

Mae’r Grantiau Cartrefi Gwag yn un o nifer o gynlluniau sydd ar gael i helpu dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys gostyngiadau TAW ar adnewyddu eiddo sydd wedi bod yn segur a benthyciadau gan Lywodraeth Cymru.  O ganlyniad i’r holl ymyraethau hyn, mae 284 tŷ wedi dod yn ôl i ddefnydd ers 2021. 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson:

 “Mae gweld tai yn sefyll yn wag ac yn cael eu gwastraffu yn fy nhristáu. Rydym yn wynebu argyfwng tai yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r cynllun grantiau yma yn galluogi pobl leol i roi bywyd newydd i adeiladau segur, gan eu troi’n gartrefi o safon. Mae’r cynllun wedi profi ei werth yn barod, gan helpu cannoedd o drigolion trwy’r sir i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, ac ar ben hynny, i brynu tai fforddiadwy o fewn eu cymunedau.

“Rydym yn cydnabod bod costau adnewyddu’r tai hyn wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Dyna pam mae’r Cyngor wedi cynyddu’r grant o £20,000 i £25,000 er mwyn rhoi cymorth mwy effeithiol i’r rhai sy’n adnewyddu tai gwag. Rydym hefyd wedi cynyddu’r trothwy cyflog er mwyn gallu helpu mwy o bobl i fanteisio ar y cynllun. 

“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n bwriadu prynu tŷ gwag neu dŷ oedd yn arfer bod yn ail gartref i edrych ar wefan y Cyngor am fwy o wybodaeth, neu gysylltu â thîm Tai Gwag y Cyngor am sgwrs am y grantiau hyn.”

Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Gwynedd a chynlluniau tai eraill, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: Tai gwag (llyw.cymru)