Mae'r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn darparu amryw o wasanaethau gofal cymdeithasol i drigolion 18 oed neu drosodd sydd angen cyngor, gwybodaeth, cymorth neu ofal oherwydd anghenion penodol.
Prif egwyddorion yr Adran ydi:
- sicrhau llesiant y rhai sydd angen gofal a chymorth arnynt;
- canolbwyntio ar bobl, a rhoi llais cryf iddynt yn y penderfyniadau a wneir am y cymorth a gânt;
- darparu gwasanaethau drwy bartneriaethau a drwy gydweithredu;
- ceisio atal anghenion unigolion rhag cynyddu ac ymdrechu i sicrhau bod y cymorth iawn ar gael ar yr adeg iawn.
Pwrpas dros brosesu eich gwybodaeth?
Rydym angen prosesu eich gwybodaeth er mwyn:
- darparu gwasanaeth gofal
- asesu anghenion gofal
- cefnogi defnyddiwr gwasanaeth
- diogelu a hyrwyddo llesiant
- asesiadau ariannol
Mae darparu’r wybodaeth fwyaf sylfaenol yn fater sensitif. Mae gennych hawl gyfreithiol i ddisgwyl i unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei darparu cael ei thrin yn gyfrinachol a’i chadw’n ddiogel. Mae gan y Cyngor fesurau mewn lle sydd yn amddiffyn preifatrwydd yr unigolyn yn ystod y broses yma.
Cyfiawnhad dros Gasglu a Chofnodi Gwybodaeth Bersonol
Bydd gwasanaeth oedolion yn casglu’r wybodaeth bersonol am ei fod yn ddyletswydd gyfreithiol arnom, gweler isod:
- Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Ar gyfer gwybodaeth sensitif, ein sail gyfreithiol ydi’r angen i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwybodaeth y gallwn ei gasglu
- Dyddiad geni, enw, cyfeiriad, manylion teuluol
- Manylion ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif Yswiriant Gwladol (mewn rhai achosion)
- Rhif Cyfeirnod personol e.e. rhif Gwasanaeth Cymdeithasol, rhif Gwasanaeth Iechyd
- Manylion cyflogwr
- Manylion teulu (Mewn achosion pan nad oes gan y cwsmer allu meddyliol, a Benodwyd a/neu rhai gydag Atwrneiaeth Arhosol.)
- Sefyllfa ariannol e.e. incwm, gwariant, manylion banc
- Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
- Barn a Phenderfyniad
- Cofnod o gwynion blaenorol
- Ymddangosiad personol ac ymddygiad
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth sensitif (categori arbennig), sy’n berthnasol i achosion unigol, ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl, a allai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:
- Manylion iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl
- Tarddiad hiliol neu ethnig
- Credoau crefyddol neu gredoau eraill
- Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
- Ymlyniad gwleidyddol / barn
- Tueddfryd Rhywiol
Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Cânt eu trin yn gyfrinachol a’u dal yn ddiogel bob amser.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth?
Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i’r Cyngor rannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid allanol a thrydydd sector os yw’n berthnasol i’r ddarpariaeth gofal. Mae’r rhain yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:
- Yr Heddlu
- Iechyd gan gynnwys – Meddygon Teulu, Ysbytai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Cartrefi Gofal
- Caiff data ystadegol, dienw ei rannu gyda NHS Digital
- Aseswyr Lles Gorau Annibynnol ac Aseswyr Iechyd Meddwl
- Cynrychiolwyr sy’n gweithredu ar eich rhan pe na bai gennych allu i wneud penderfyniadau am eich gofal. Gan gynnwys ymhlith eraill:
- Eiriolydd Galluedd Meddyliol Annibynnol;
- Rhai sydd ag Atwrneiaeth Arhosol
- Dirprwy a Benodwyd gan y Llys
- Cynrychiolydd enwebedig/aelod teulu agosaf
- Aelodau eraill o’r teulu sydd â diddordeb yn eich iechyd meddwl a’ch gofal
- Llys Gwarchod
- Gwasanaethau Diogelu Sir Conwy
- Tîm(timau) oedolyn priodol/gofal cymdeithasol i blant
- Gwasanaethau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel bo’n briodol gan gynnwys
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Caiff gwybodaeth ei rhannu mewn achosion o wir angen, ble gallwn wella ar y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig i’r unigolyn. Ni chaiff y wybodaeth ei rhannu felly oni bai fod angen cyfreithiol i wneud. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd y gwasanaeth yn cadw eich gwybodaeth dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol. Bydd hyn fel rheol yn isafswm o chwe blynedd. Mae gennym restr o gyfnodau cadw ar gyfer gwaith yr Adran. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Gwybodaeth os gwelwch yn dda.
Ar ôl y cyfnod cadw, bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel.
Allwch chi weld pa wybodaeth mae’r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch?
Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth bersonol mae’r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch. Mewn rhai amgylchiadau, ni fyddwn yn gallu gadael i chi weld y wybodaeth, neu ran ohoni, oherwydd:
- ei bod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am bobl eraill; neu fod gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol yr unigolyn neu rywun arall
Os na allwn roi mynediad i chi at eich gwybodaeth byddwn yn egluro’r rheswm dros wrthod.
Sut ydw i’n gwneud cais i weld y wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanaf?
- Lawrlwythwch y ffurflen gais mynediad i wybodaeth bersonol
- Anfonwch lythyr neu e-bost atom
- Holwch ar lafar
Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi ddarparu prawf i brofi pwy ydych chi.
Unwaith y byddwn wedi derbyn prawf o’ch hunaniaeth, fe wnawn wedyn brosesu’ch cais mewn 1 mis, neu mae gennym hawl i ymestyn y cyfnod hwn i 2 fis os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.
Sut i gysylltu â ni?
Am fwy o wybodaeth, neu os ydych yn dymuno derbyn ffurflen gais ar e-bost neu yn y post, cysylltwch â ni ar y manylion isod:
Swyddog Gwybodaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Ffôn: 01286 679 223
- E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Cyfeiriad: Swyddog Gwybodaeth, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Sut i gael mwy o wybodaeth am eich hawliau?
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Datganiadau Preifatrwydd a Chwcis.