Beth yw Craffu a sut i gymryd rhan?

Mae deddfwriaeth llywodraeth leol yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth clir rhwng dwy elfen o waith cynghorau:

  • Y Weithrediaeth (Cabinet yn achos Gwynedd) sydd yn gyfrifol am y mwyafrif llethol o’r penderfyniadau a wneir gan aelodau etholedig
  • Yr ochr Craffu sydd yn craffu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’u dwyn i gyfrif. 

Swyddogaeth Craffu

Mae craffu yn cyfrannu at yrru gwelliant mewn gwasanaethau gan wneud yn saff fod pobl Gwynedd yn derbyn y gwasanaethau gorau posib. Mae craffu yng Ngwynedd yn ychwanegu gwerth trwy:

  • Graffu effaith cynlluniau a gwasanaethau ar bobl Gwynedd
  • Gyfrannu at wireddu blaenoriaethau’r Cyngor
  • Edrych i mewn i bryderon am ansawdd gwasanaethau
  • Adnabod ymarfer da a gwendidau
  • Weithredu fel Ffrind Critigol gan sicrhau bod sylw yn cael ei roi i lais pobl Gwynedd
  • Fonitro perfformiad
  • Craffu polisiau arfaethedig a datblygol
  • Dal y Cabinet ac Aelodau unigol y Cabinet i gyfrif am eu penderfyniadau ac am gyflawni

Mae’r Pwyllgorau Craffu yn annibynnol ac yn sicrhau her annibynnol i waith y Cabinet.


Sut y gallwch chi gymryd rhan yng ngwaith Trosolwg a Chraffu?

Mae’r Pwyllgorau yn croesawu sylwadau gan y cyhoedd. Gallwch adael i’ch cynghorydd lleol wybod neu gysylltu gydag aelod o Bwyllgor Craffu. Neu gallwch anfon eich sylwadau at: Craffu@gwynedd.llyw.cymru


Bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Craffu

Cynhelir pob cyfarfod Pwyllgor Craffu yn gyhoeddus ac mae croeso i unrhyw un ddod i wrando ar y trafodaethau. Mae’r Pwyllgorau Craffu ar ddechrau bob blwyddyn Cyngor yn adnabod materion i’w craffu mewn cyfarfodydd Pwyllgor yn ystod y flwyddyn.

Dim ond ar achlysuron prin iawn, pan fo rhai math o wybodaeth gyfrinachol yn cael eu trafod y bydd yn cyhoedd yn cael eu cau allan o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu.


Ymchwiliad Craffu

Os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn ymchwiliad craffu cysylltwch â ni i roi eich sylwadau i’r Cynghorwyr.   

Gallwch gymryd rhan mewn ymchwiliad craffu drwy ddod yn dyst i rannu gwybodaeth arbennig ar y mater a darparu tystiolaeth. Mae hyn yn galluogi’r Cynghorwyr i wneud penderfyniadau ac mae hefyd yn rhoi llais i unigolion a chyfundrefnau tu allan i’r Cyngor i leisio eu barn.

Os ydych eisiau cynnig mater i’w ystyried gan y Pwyllgorau Craffu cysylltwch â ni:

Gallwch lenwi ffurflen i wneud cais i graffu mater penodol, lawr lwythwch gopi Word neu PDF -  

 

Ffurflen cais i graffu (Word)

Ffurflen cais i graffu (PDF)

 

a’i anfon atom ar e-bost neu i’r cyfeiriad post isod

  • E-bost: Craffu@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad: Uned Iaith a Craffu,Cefnogaeth Gorfforaethol, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH

Os ydych eisiau cymorth o ran llenwi’r ffurflen neu eisiau sgwrs am fater penodol, cysylltwch â ni ar y rhif ffôn yma – 01286 679020.