Cronfa benthyciadau canol tref

Mae’r gronfa ar gael i berchnogion eiddo wedi’u lleoli yng nghanol trefi Gwynedd, sydd angen gwelliannau.

Pwrpas y benthyciad yw gwella’r eiddo ar gyfer perchnogaeth barhaol, i’w werthu, i’w osod, neu i wneud defnydd o safle gwag. Gall gwelliannau gynnwys gwneud eiddo preswyl yn saff, yn gynnes a / neu ei ddiogelu. 

Mae’r gronfa yn rhan o becyn ehangach o gynlluniau gan Cyngor Gwynedd i gefnogi canol trefi y Sir ac mae’n cyfrannu tuag at ymdrechion Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 

Ni chaniateir defnyddio’r benthyciad i ad-dalu benthyciadau eraill.

 

Gwneud Cais

Gellir derbyn ffurflenni cais drwy gysylltu â Thîm Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd

Rhaid i bob darpar ymgeisydd gysylltu â’r Tîm Cefnogi Busnes er mwyn trafod ei gynnig cyn cyflwyno cais.