Mae’r grant yma wedi’i ariannu gan Cyngor Gwynedd (Yr Awdurdod), a Chronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd. Wrth weinyddu’r grantiau, rhaid i Gyngor Gwynedd gydymffurfio â'i rwymedigaethau i Lywodraeth y DU, sicrhau bod y Grant yn cael ei ddefnyddio i'r dibenion y mae wedi'i fwriadu ac i alluogi i'r Awdurdod fonitro cynnydd y Prosiect Grant a darparu adroddiadau i'r Adran Codi'r Gwastad, Tai a Chymunedau.
- Yr “Awdurdod” yw Cyngor Gwynedd
- Y “Cyfnod Ariannu” yw’r cyfnod hyd at 28 Chwefror 2026
- Y “Prosiect” yw'r gweithgaredd yr ydych wedi derbyn grant tuag ato, sydd wedi’i osod allan yn eich ffurflen gais cymeradwy
- Mae “Gwariant Cymwys” yn golygu'r gwariant cymeradwy sydd wedi gosod allan yn y cais grant cymeradwy y mae Derbynnydd y Grant yn ei wario yn ystod y Cyfnod Ariannu er dibenioncyflwyno'r Prosiect
- “Chi” yw Dderbynnydd y Grant
Er mwyn derbyn y grant yma, rydych yn cadarnhau:
- bod yr holl wybodaeth yn y ffurflen gais, a’r holl wybodaeth ychwanegol a chyflwynwyd gennych chi yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth, ac y gallai’r Cyngor gymryd camau yn erbyn y sawl sy’n cyflwyno’r ffurflen gais i adhawlio’r grant ac unrhyw gostau, taliadau neu dreuliau sydd ynghlwm â hynny;
- bod gennych chi’r hawl a’r awdurdod llawn i weithredu ar ran y busnes/sefydliad sy’n derbyn y grant;
- bod angen y grant yma er mwyn gwneud yr hyn sydd wedi’i osod allan yn eich ffurflen gais cymeradwy, naill ai o gwbl, i'r un raddfa, neu o fewn amserlen resymol;
- y bydd bob eitem yn cael ei gadw a’i gynnal yn ddigonol;
- bod yr holl ganiatadau statudol angenrheidiol mewn lle;
- nad ydych yn derbyn arian grant am nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u prynu cyn y dyddiad yr ydych yn derbyn y cynnig grant;
- ni fyddwch yn prynu nwyddau neu wasanaethau gydag arian parod;
- os ydych yn creu swyddi, byddwn ni’n gofyn am dystiolaeth o hynny, er enghraifft trwy ddangos rhestr cyflogau, copi slip talu, copi cytundeb gwaith, neu gopi o Ffurflen P36. I ddangos eich bod wedi gwarchod swyddi, byddwn angen llythyr o eglurhad gan berchennog neu prif-weithredwr eich cwmni.
Disgwylir i dderbynnydd y grant sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei nodi fel sgil hanfodol mewn hysbysebion ar gyfer unrhyw swyddi gwasanaeth/sydd yn wynebu’r cyhoedd, ac y dylid ystyried gosod gofynion iaith ar gyfer pob swydd arall a gaiff ei chreu o ganlyniad uniongyrchol i’r grant,gan nodi’r gofynion sydd fwyaf addas i natur y swydd.
Disgwylir i’r chi wneud pob ymdrech i hysbysebu a hyrwyddo cyfleoedd swyddi yn lleol
Y bydd unrhyw ddeunydd cyhoeddus a ariannir gan y grant (megis arwyddion) yn cydymffurfio â Pholisi Iaith Cyngor Gwynedd;
Y bydd yr arian yn cael ei wario yn unol â’ch cais cymeradwy ac na fydd eitemau’n cael eu gwerthu hyd 2035 heb gysylltu â ni gyntaf i drafod – wele Amodau Arbennig
Pan fo Derbynnydd y Grant yn ymrwymo i gontract gyda Thrydydd Parti mewn cysylltiad â'r Prosiect, bydd Derbynnydd y Grant yn parhau i fod yn gyfrifol am dalu'r Trydydd Parti hwnnw. Nid oes gan yr Awdurdod unrhyw gyfrifoldeb am dalu anfonebau Trydydd Parti.
Ni fydd talu'r arian Grant yn ei flaen a defnyddio is-gontractwyr yn rhyddhau Derbynnydd y Grant o unrhyw un o'i rwymedigaethau dan y Cytundeb Cyllid Grant, gan gynnwys unrhyw ymrwymiad arno i ad-dalu'r Grant.
Bydd Derbynnydd y Grant yn hysbysu'r Awdurdod yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol:
- Unrhyw fethiant gwirioneddol neu bosib i gydymffurfio ag unrhyw un o'i rwymedigaethau dan y Telerau ac Amodau, sy'n cynnwys y rhai sydd wedi'u hachosi gan anawsterau gweinyddol, ariannol neu reolaethol;
- amrywiadau gwirioneddol neu bosib i'r Gwariant Cymwys ac/neu unrhyw ddigwyddiad sy'n effeithio'n sylweddol ar gywirdeb parhaus gwybodaeth o'r fath.
Hyd 2035, y byddwch yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau monitro, gan gynnwys cwblhau a dychwelyd ffurflenni monitro
Y byddwch yn ymrwymo i roi 3 gweithgaredd penodol ar waith i gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn eich busnes
Y byddwch yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol (nodwch fod y dudalen yma ar gael yn Saesneg yn unig) os ydych chi'n cyflogi staff (dros 18 oed) erbyn Chwefror 2026 fan bellaf (nid yw'n ofynnol sicrhau achrediad y Sefydliad Cyflog Byw);
Bydd Derbynnydd y Grant a'r Awdurdod yn cydymffurfio bob amser gyda'u rhwymedigaethau perthnasol dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Mae'r Partïon yn cytuno, er dibenion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, bod Derbynnydd y Grant yn Rheolydd Data a'r Awdurdod yn Rheolydd Data