LleChi LleNi

Mae’r cynllun LleCHI LleNI: Ein Safle Treftadaeth Y Byd, Ein Balchder, Ein Dyfodol yn rhan o ymdrechion Cyngor Gwynedd i wireddu gweledigaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sef:

Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.

 

Mae’r cynllun LleCHI LleNI yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd ar ran ystod o bartneriaid, ac yn gynllun sydd wedi derbyn nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a phartneriaid eraill. Mae cyfanswm y cynllun yn £2m dros gyfnod o bum mlynedd.

Credwn fod y statws Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer pawb ac rydym am gefnogi ein cymunedau i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.

LleCHI LleNI yw’r elfen sy’n canolbwyntio ar bobl er mwyn darparu ymgysylltiad i bawb, gan ennyn ymdeimlad cryf o gynefin a balchder lleol yn y dirwedd Lechi, gwella lles, darparu cyfleoedd, datblygu sgiliau a hybu’r economi leol.

 

Mwy o wybodaeth 

Am fwy o wybodaeth am y prosiect LleCHI LleNI, ewch i’r dudalen prosiect ar wefan Llechi Cymru: Prosiect LleCHI LleNI: Llechi Cymru

Neu e-bostiwch llechi@gwynedd.llyw.cymru

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol:

Instagram

Facebook

YouTube

Bluesky