Cartref > Busnesau > Adfywio > Llechi Cymru

Llechi Cymru

Mae stori Llechi Cymru yn un oesol. Mae i’r tirwedd le arbennig yng nghalonnau trigolion. Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn adrodd stori esblygiad bro dawel, amaethyddol i fod yn ardal lle nad oedd dianc rhag y diwydiant llechi. Dyma lle ymddangosodd chwareli, trefi a phentrefi, a chafodd ffyrdd a rheilffyrdd eu cerfio trwy Eryri i borthladdoedd y glannau.

Yn 2021, fe ddynodwyd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO, un o bedwar dynodiad cyffelyb yng Nghymru, ac un o 32 safle yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei rhedeg gan bartneriaeth, sydd yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd. 

Cliciwch ar y penawdau isod am fwy o wybodaeth, neu ewch i wefan Llechi Cymru.