Eiddo Gwag - adfywio
Mae ymateb i’r her o eiddo gwag yn amcan strategol a blaenoriaeth gan Gyngor Gwynedd. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i adfywio canol trefi a chryfhau cymunedau drwy ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd.
Mewn ymateb i hyn mae Grŵp Traws-Adrannol wedi ei sefydlu gyda chynrychiolwyr o wasanaethau allweddol y Cyngor ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Nod y grŵp yw cydlynu ymdrechion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a gwella’r amgylchedd.
Mae swyddogaethau’r Grwp yn cynnwys
- Sefydlu trefniadau trawsadrannol i fynd i’r afael ag eiddo gwag
- Blaenoriaethu rhestr o safleoedd a chytuno ar gamau gweithredu
- Cynnal chynadleddau achos i benderfynu ar ymyraethau priodol
- Rhannu gwybodaeth, ymarfer da a newidiadau deddfwriaethol
- Cryfhau’r cyswllt gyda perchnogion eiddo i adnabod cyfleoedd a rhwystrau er mwyn gallu ymateb i’r rhain
Ymyraethau Eiddo Gwag
Wrth ymateb i’r her o eiddo gwag mae amrediad o ymyraethau posibl ac mae’r Grŵp Traws-Adrannol wedi mabwysiadu model gweithredu Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys y categorïau canlynol:
- Darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol
- Cefnogaeth dechnegol a chyngor arbenigol
- Cefnogaeth ariannol – grantiau neu fenthyciadau
- Rhybudd neu fygythiad o gamau gorfodaeth
- Ad-ennill dyledion sy’n gysylltiedig â’r eiddo
- Gorfodaeth ffurfiol (fel cam olaf)
Data Eiddo Gwag
Mae’r Cyngor wedi datblygu proffil data ar gyfer canol trefi Gwynedd. Mae’r proffiliau hyn yn cynnig darlun o sefyllfa presennol trefi Gwynedd – gan gynnwys data ar boblogaeth, defnyddiau adeiladau ac eiddo gwag.
Gweler linc i’r proffiliau isod:
Nid yw'r ddogfennau ar y dudalen hon yn hygyrch i bob defnyddiwr. Er mwyn derbyn copi mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni:
adfywio@gwynedd.llyw.cymru
Oes gennych chi eiddo gwag yng Ngwynedd?
Am ymholiadau yn ymwneud ag eiddo masnachol canol tref cysylltwch â:
Am ymholiadau busnes yn gyffredinol cysylltwch â:
Am Gymorth Ariannol ewch:
Am gyngor neu wybodaeth am Reoliadau Adeiladu, cysylltwch â:
Am ymholiadau sydd yn ymwneud ag eiddo preswyl cysylltwch â: