Ar 6 Ebrill 2024, daeth cyfraith ailgylchu newydd i rym.
Mae'n golygu y bydd rhaid i bob gweithle, fel busnesau, y sector gyhoeddus, ac elusennau, wahanu eu eitemau ailgylchu yn ôl eu math cyn eu bod yn cael eu casglu.
Gweld manylion (yn agor mewn tab newydd)

Os ydych yn rhedeg busnes neu'n cynnal digwyddiad cyhoeddus, mae dyletswydd cyfreithiol arnoch (Dyletswydd Gofal (yn agor mewn tab newydd)) i gael gwared ar unrhyw wastraff a deunydd ailgylchu yn gyfrifol drwy gludwr gwastraff masnach trwyddedig.

Gall Cyngor Gwynedd gynnig:

-  gwasanaeth cynhwysfawr, dibynadwy a phroffesiynol

prisiau cystadleuol

contractau ar gyfer casgliadau rheolaidd, neu, gasgliadau ar gyfer digwyddiadau un-tro

gwasanaeth sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Cytundebau Casglu Gwastraff MasnacholCasgliadau Gwastraff Masnachol Un-troGwastraff masnachol - llety gwyliau ac hunanarlwyo