Ar 6 Ebrill 2024 daeth cyfraith ailgylchu newydd i rym.
Mae'n golygu y bydd rhaid i bob gweithle, fel busnesau, y sector gyhoeddus, ac elusennau, wahanu eu eitemau ailgylchu yn ôl eu math cyn eu bod yn cael eu casglu.
Gweld manylion am y gyfraith ailgylchu newydd (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych yn cynnal digwyddiad cyhoeddus mae dyletswydd cyfreithiol arnoch (Dyletswydd Gofal (yn agor mewn tab newydd)) i ymdrin ag unrhyw wastraff cyffredinol ychwanegol ac ailgylchu, neu sbwriel a allai gael ei greu yn yr ardal.
Gwneud cais
I drafod anghenion casglu gwastraff ac ailgylchu eich digwyddiadau chael dyfynbris, cysylltwch â ni.
Rhaid gwneud cais am y gwasanaeth mewn da bryd, ac o leiaf 28 diwrnod cyn eich digwyddiad. Bydd rhagdaliad yn ofynnol.
Cysylltwch â ni
- gwastraffmasnachol@gwynedd.llyw.cymru
- 01758 704222
Pan yn cysylltu â ni, ceisiwch ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib, gan cynnwys:
- Dyddiad y digwyddiad / Dyddiad y casgliadau
- Lleoliad y digwyddiad / Lleoliad y pwyntiau casglu
- Nifer a math o finiau
- Amlder
- Eich manylion cyswllt, yn cynnwys eich enw llawn, rhif cyswllt, cyfeiriad ar gyfer anfonebu.
Casgliadau gwastraff masnachol un-tro ar gyfer:
Tecstilau sydd heb eu gwerthu
neu
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE).
Er mwyn cael dyfynbris, cysylltwch â ni:
- gwastraffmasnachol@gwynedd.llyw.cymru
- 01758 704222