Mae dyletswydd cyfreithiol (Dyletswydd Gofal) (yn agor mewn tab newydd) ar bob gweithle i sicrhau bod unrhyw wastraff cyffredinol ac ailgylchu sy'n cael ei gynhyrchu ganddynt yn cael ei gasglu a'i waredu gan gwmni neu sefydliad sydd wedi eu trwyddedu.
Os ydych chi angen cael gwared ar wastraff cyffredinol ac ailgylchu o’ch safle busnes yn rheolaidd, mae ein gwasanaeth casglu drwy gytundeb yn ddelfrydol.
Cytundebau casglu gwastraff masnachol Cyngor Gwynedd
Rydym yn cynnig:
- Casgliadau dibynadwy o wastraff ac ailgylchu
- Amrywiaeth eang o feintiau bin/cynwysyddion i ymdopi â’ch holl ofynion
- Cytundebau treigl 12 mis neu fesul cyfnod casglu dymunol (lleiafswm o 6 mis)
- gwasanaeth sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).
- Canolfan gyswllt ar gael 5 diwrnod yr wythnos.
Mwy o wybodaeth: Llyfryn Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Masnachol (yn agor mewn tab newydd)
Pris
Nid yw cost casglu a gwaredu gwastraff ac ailgylchu masnachol wedi’i gynnwys mewn ardrethi busnes.
Er mwyn cael dyfynbris, cysylltwch â ni:
- GwastraffMasnachol@gwynedd.llyw.cymru
- 01758 704222
Mae’r taliadau hyn yn cynnwys:
- cyflenwad o finiau wedi eu dosbarthu
- ffi gwaredu
- eich dogfennaeth Dyletswydd Gofal
- casgliadau rheolaidd.
Rydym yn codi tâl fesul casgliad yn unig. Nid oes unrhyw gostau cudd ac nid oes TAW i'w hychwanegu.
Gwneud cais neu cysylltu â ni
Os ydych yn gwsmer newydd eisiau trafod anghenion casglu gwastraff ac ailgylchu eich busnes, neu os ydych yn gwsmer sydd yn derbyn ein gwasanaeth yn barod ac angen trafod eich cytundeb, cysylltwch â ni:
- gwastraffmasnachol@gwynedd.llyw.cymru
- 01758 704222
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y: Llyfryn Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Masnachol (yn agor mewn tab newydd)