Os ydych chi’n defnyddio eich eiddo ar gyfer busnes, un ai yn ei osod fel llety gwyliau, llety hunanarlwyo neu os ydych yn rhedeg gwesty, mae’n ddyletswydd cyfreithiol arnoch chi i sicrhau bod y gwastraff yn cael ei reoli’n gywir. Bydd rhaid i gludwr gwastraff trwyddedig ei gasglu a’i waredu.
Cofiwch! Os yw’r eiddo wedi’i gofrestru ar gyfer ardrethi busnes (trethi annomestig cenedlaethol) nid yw ardrethi busnes yn cynnwys y casglu a gwaredu gwastraff ac ailgylchu masnachol. Rhaid talu am y gwasanaeth hwn yn ychwanegol.
Gwasanaeth casglu gwastraff masnachol Cyngor Gwynedd
Rydym yn cynnig casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol dibynadwy.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys:
- cyflenwad o finiau wedi eu dosbarthu
- ffi gwaredu
- eich dogfennaeth Dyletswydd Gofal (yn agor mewn tab newydd)
- casgliadau rheolaidd.
Gwneud cais neu cysylltu â ni
Cysylltwch â ni:
- GwastraffMasnachol@gwynedd.llyw.cymru
- 01758 704222
Nid oes unrhyw gostau cudd ac nid oes TAW i'w hychwanegu.
Darparwyr gwastraff masnachol gwahanol i Gyngor Gwynedd
Os byddwch yn dewis defnyddio darparwr gwasanaeth gwahanol i Gyngor Gwynedd mae’r gyfraith yn nodi bod rhaid i chi brofi, trwy ddangos Dyletswydd Gofal/Nodyn Trosglwyddo Gwastraff, fod gennych drefniadau casglu gwastraff priodol mewn grym.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn gyfrifol am blismona y drefn newydd o safbwynt ymrwymiad busnesau a chasglwyr y deunydd.