Ydych chi :

  • Eisiau gwneud gwahaniaeth?
  • Eisiau cefnogi pobl yn eu cymunedau?
  • Eisiau datblygu neu newid gyrfa i weithio yn y maes Gofal plant neu oedolion?

Mae Academi Gofal Gwynedd yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa yn y maes Gofal drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!

Gyda llwybrau amrywiol drwy'r Academi Gofal, p'un a ydych yn chwilio am rôl mewn Rheoli Gofal, dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Therapydd Galwedigaethol, mae posibilrwydd datblygu drwy’r academi i rôl sy'n addas i chi. Mae’r sector bob amser angen aelodau tîm brwdfrydig i gefnogi pobl ledled Gwynedd.

Lawrlwytho prosbectws Academi Gofal Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)

Mwy o wybodaeth

Cofrestru diddordeb

Cofrestrwch eich diddordeb neu cysylltwch am sgwrs

Cofrestu Diddordeb: Academi Gofal Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)

Neu e-bostiwch: gofalu@gwynedd.llyw.cymru