Cesglir eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaeth i chi.
Mae’r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i ni allu cyflawni ein dyletswydd gyfreithiol o dan erthygl 6(1)(d) UKGDPR.
Os ydi’r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cynnwys gwybodaeth categori arbennig megis iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, byddwn yn dibynnu ar erthygl 9(2)(g) UK GDPR, sydd hefyd yn gysylltiedig a’n dyletswydd gyhoeddus a’r angen i ddiogelu eich hawliau sylfaenol o dan Atodlen 1 rhan 2 (6) DPA2018 sy’n ymwneud a dibenion llywodraeth a statudol.
Y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer hyn i gyd ydi Deddf Tai (Cymru) 2014.
Os oes angen i ni brosesu gwybodaeth am droseddau, byddwn yn dibynnu ar Atodlen 1 rhan 2 (6) DPA 2018.
Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda
- Darparwyr Tai
- Tîm Opsiynau Tai
- Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaeth
- Darparwyr Cefnogaeth Tai
- Darparwyr y Trydydd Sector
- Gwasanaeth Prawf,
- DWP
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Gwasanaeth Iechyd
Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofyn cyfreithiol i Gyngor Gwynedd ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth a ddarperir i ni gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a datgelu twyll.
Bydd unrhyw wybodaeth a rennir ar sail gwir angen gwybod yn unig, gyda'r unigolion priodol a lleiafswm y wybodaeth ar gyfer y pwrpas.
Ni fyddwn yn defnyddio eich data ar gyfer proffilio neu i wneud penderfyniadau awtomatig.
Ni fyddwn ond yn cadw'r wybodaeth cyhyd ag sydd angen i gwblhau ein swyddogaethau. Cedwir gwybodaeth am isafswm o hyd at bum mlynedd oni bai bod cysylltiad parhaus gyda'r gwasanaeth a bydd yn cael ei waredu'n ddiogel.
Am ragor o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â: