Mae Cyngor Gwynedd yn cydymffurfio efo Deddf Diogelu Data a’r GDPR ac wedi cofrestru fel Rheolydd Data efo’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Mae’r datganiad preifatrwydd yma’n esbonio sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei ddefnyddio, i ba bwrpas, efo pwy mae’n cael ei rannu a pham.
Pam rydym yn casglu gwybodaeth bersonol?
Rydym yn casglu a dal eich gwybodaeth bersonol yn unol â rhan 2 o’r Ddeddf Tai 2004, mae’r ddeddf yn dweud ein bod yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn:
- Penderfynu os yw’r eiddo yn briodol i gael ei drwyddedu o dan y Ddeddf
- Penderfynu os yw’r unigolyn arfaethedig sydd wedi ceisio am drwydded yn briodol i fod yn drwyddedwr o dan ddiffiniad y Ddeddf
- Cynnal cofrestr gyhoeddus o Drwyddedwyr Tai Amlbreswyliaeth yn unol â’r Ddeddf
Pa fath o wybodaeth bersonol sydd yn cael ei gasglu
- Manylion cyswllt
- Dyddiad Geni
Gyda phwy fydd y wybodaeth yma’n cael ei rannu?
Byddwn yn darparu copi o’r wybodaeth yn unol â’r ddeddf mewn ffurf y gofrestr gyhoeddus os oes gais.
Pa mor hir fyddwn yn cadw’r wybodaeth?
Byddwn yn cadw’r wybodaeth tra byddwn yn cynnig y gwasanaeth i chi. Oni bai ein bod yn gorfod cadw yn hirach oherwydd rhesymau cyfreithiol. Byddwn yn cadw’r wybodaeth yma tra mor hir ag mae’r Ddeddf sy’n ymwneud a’r Drwydded Tai Amlbreswyliaeth yn gyfredol.
Eich hawliau
Mae gennych chi’r hawl i:
- Wneud cais am eich gwybodaeth yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (Subject Access Request)
- Wneud cais i gywiro unrhyw wybodaeth sydd yn anghywir
- Wneud cais i ddileu gwybodaeth sydd yn cael ei ddal
- Wneud cais i gyfyngu’r ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
- I drosglwyddo eich gwybodaeth i awdurdod arall os oes rhaid
- I gwestiynu unrhyw benderfyniadau awtomatig sydd wedi ei gwneud ar gyfrifiadur
Cwynion
Fel unigolyn mae gennych chi hawl i gwyno i’r uned Diogelu Data yn y Cyngor os nad ydych yn hapus efo’r ffordd mae’r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth.
Os nad ydych yn hapus efo canlyniad yr uchod, mae’n bosib i chi gysylltu efo’r Comisiynydd Gwybodaeth efo’r isod:
The Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF.