Trwydded tai amlbreswyliaeth

Tŷ amlbreswyliaeth yw tŷ neu fflat sy’n brif gartref i ddau aelwyd neu fwy a ble mae rhai o’r aelwydydd yn rhannu cyfleusterau sylfaenol fel ystafell ymolchi, toiled neu gyfleusterau coginio.

Os ydych yn gosod eiddo fel tŷ amlbreswyliaeth, efallai fod arnoch angen trwydded gan eich awdurdod lleol.

Amcan y trwyddedu yw sicrhau bod landlordiaid yn bobl gymwys ac addas, bod y llety’n cyrraedd y safonau angenrheidiol a bod tai risg uchel yn cael sylw.

Mae’n drosedd rhedeg tŷ amlbreswyliaeth heb drwydded. Gellir mynd â pherchnogion a rheolwyr sy’n gwneud hynny i’r llys a rhoi dirwy o £20,000 iddynt am y drosedd, a gall tenantiaid wneud cais am orchymyn Ad-dalu Rhent, fyddai’n golygu bod y landlord yn gorfod talu gwerth hyd at 12 mis o rent yn ôl.

I dderbyn ffurflen gais ac am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Siop Un Stop Tai

Siop un Stop o holl wasanaethau tai Cyngor Gwynedd.

Mae 2 fath o drwydded:

  1. Trwydded orfodol
    Ar gyfer tŷ â 3 llawr neu fwy, lle mae mwy na 5 person o ddau aelwyd neu fwy yn byw. Y ffi am drwydded orfodol yw £160 am bob uned yn ogystal â £50 i brosesu'r cais.
  2. Trwydded ychwanegol
    Ar gyfer pob tŷ arall mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu gwneud y drwydded ychwanegol yn daladwy drwy Wynedd er mwyn cynnal safonau. Y ffi am y drwydded hon yw £160 am bob uned yn ychwanegol i £50 i brosesu'r cais.

Meini prawf cymhwysedd

  • Rhaid gwneud cais i’r awdurdod tai lleol.
  • Bydd ffi yn daladwy.
  • Rhaid i chi fod yn berson cymwys a phriodol i ddal y drwydded.

Proses gwerthuso’r cais

Caniateir trwydded:

  • os yw’r tŷ yn addas ar gyfer amlbreswyliaeth, neu os gellir ei wneud yn addas
  • os yw’r ymgeisydd yn berson addas a chymwys ac mai nhw yw’r person mwyaf addas i ddal y drwydded
  • os oes gan y rheolwr arfaethedig reolaeth ar y tŷ, a’i fod yn berson addas a chymwys i fod yn rheolwr
  • os yw’r trefniadau rheoli’n foddhaol.