Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i’r gwasanaeth iechyd meddwl o fewn Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a ddarperir gan Gyngor Gwynedd. Dylid ei ddarllen yn ychwanegol â’r datganiad preifatrwydd gwasanaethau Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Pwrpas dros brosesu eich gwybodaeth?

Rydym angen prosesu eich gwybodaeth er mwyn:

  • darparu triniaeth a gofal i bobl ag anghenion iechyd meddwl tymor byr neu anghenion tymor hir mwy cymhleth
  • helpu unigolion i gael cymorth personol tymor hir i'w helpu i fyw mor annibynnol â phosib
  • cynnig cyngor a rhannu manylion cyswllt sefydliadau defnyddiol
  • cefnogi gofalwyr

Cyfiawnhad dros Gasglu a Chofnodi Gwybodaeth Bersonol

Bydd gwasanaeth iechyd meddwl yn casglu’r wybodaeth bersonol am ei fod yn rhan o’n tasg gyhoeddus o dan Erthygl 6(e) UK GDPR

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Iechyd Meddwl,
  • Mesur Iechyd Meddwl,
  • Deddf Capasiti Meddwl 2005

Ar gyfer gwybodaeth sensitif, ein sail gyfreithiol ydi’r angen i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol (Erthygl 9(h) UK GDPR)

Gwybodaeth y gallwn ei gasglu

  • Dyddiad geni, enw, cyfeiriad, manylion teuluol
  • Manylion ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif Yswiriant Gwladol (mewn rhai achosion)
  • Rhif Cyfeirnod personol e.e. rhif Gwasanaeth Cymdeithasol, rhif Gwasanaeth Iechyd
  • Manylion teulu (Mewn achosion pan nad oes gan y defnyddiwr gwasanaeth allu meddyliol, a Benodwyd a/neu rhai gydag Atwrneiaeth Arhosol.)
  • Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • Ymddangosiad personol ac ymddygiad

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth sensitif (categori arbennig), sy’n berthnasol i achosion unigol, ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl, a allai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:

  • Manylion iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl
  • Tarddiad hiliol neu ethnig
  • Credoau crefyddol neu gredoau eraill
  • Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
  • Ymlyniad gwleidyddol / barn
  • Tueddfryd Rhywiol

Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Cânt eu trin yn gyfrinachol a’u dal yn ddiogel bob amser.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth?

Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i’r Cyngor rannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid allanol a thrydydd sector os yw’n berthnasol i’r ddarpariaeth gofal. Mae’r rhain yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Meddygon Teulu
  • Darparwyr annibynnol
  • Darparwyr trydydd sector

Caiff gwybodaeth ei rhannu mewn achosion o wir angen, ble gallwn wella ar y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig i’r unigolyn. Ni chaiff y wybodaeth ei rhannu felly oni bai fod angen cyfreithiol i wneud. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd y gwasanaeth yn cadw eich gwybodaeth dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol. Bydd hyn fel rheol yn isafswm o ugain mlynedd yn dilyn cwblhau cysylltiad gyda’r gwasanaeth iechyd meddwl neu wyth mlynedd o ddyddiad marwolaeth defnyddiwr gwasanaeth (nid ydynt yn dinistrio'r ffeiliau yma gan fod embargo arnynt). Pe byddai cyswllt yn ail gychwyn gyda’r gwasanaeth, bydd y dyddiad yn ail gychwyn. Mae gennym restr o gyfnodau cadw ar gyfer gwaith yr Adran. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Gwybodaeth os gwelwch yn dda.

Ar ôl y cyfnod cadw, bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel.

Bydd holl ffeiliau papur yn cael eu cadw gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd.

Allwch chi weld pa wybodaeth mae’r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch?

Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth bersonol mae’r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch. Mewn rhai amgylchiadau, ni fyddwn yn gallu gadael i chi weld y wybodaeth, neu ran ohoni, oherwydd:

  • ei bod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am bobl eraill;
  • neu fod gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol yr unigolyn neu rywun arall

Os na allwn roi mynediad i chi at eich gwybodaeth byddwn yn egluro’r rheswm dros wrthod.

Sut ydw i’n gwneud cais i weld y wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanaf?

  • Lawrlwythwch y ffurflen gais mynediad i wybodaeth bersonol
  • Anfonwch lythyr neu e-bost atom
  • Holwch ar lafar

Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi ddarparu prawf i brofi pwy ydych chi.

Unwaith y byddwn wedi derbyn prawf o’ch hunaniaeth, fe wnawn wedyn brosesu’ch cais mewn 1 mis, neu mae gennym hawl i ymestyn y cyfnod hwn i 2 fis os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

Sut i gysylltu â ni?

Am fwy o wybodaeth, neu os ydych yn dymuno derbyn ffurflen gais ar e-bost neu yn y post, cysylltwch â ni ar y manylion isod:

Swyddog Gwybodaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

  • Ffôn: 01286 679 223
  • E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad: Swyddog Gwybodaeth, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Sut i gael mwy o wybodaeth am eich hawliau?

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Datganiadau Preifatrwydd a Chwcis.