Pam ein bod angen eich gwybodaeth
Mae Galw Gwynedd a Siopau Gwynedd yn casglu eich gwybodaeth er mwyn darparu gwasanaeth i chi. Ni fyddwn yn casglu gwybodaeth oni bai fod diben penodol, clir a chyfreithiol dros wneud hynny.
Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth
Ar gyfer rhai gwasanaethau, er enghraifft casglu gwastraff, mae prosesu gwybodaeth personol yn angenrheidiol i berfformio tasg er budd y cyhoedd, neu i weithredu awdurdod swyddogol.
Mae goblygiadau cyfreithiol gennym i brosesu eich data er mwyn cyflawni gwasanaethau eraill, er enghraifft ceisiadau am fathodynnau glas neu talu am dreth cyngor.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.
Wrth gwblhau holiadur bodlonrwydd, yr ydych yn rhoi caniatâd clir i ni brosesu eich data personol at ddiben penodol, o fod yn gwella gwasanaeth.
Bydd galwadau sy’n dod i mewn i Galw Gwynedd yn cael eu recordio er mwyn hyfforddi staff, monitro safon gwasanaeth a sicrwydd ansawdd, nid yw galwadau sy’n cael eu trosglwyddo allan o Galw Gwynedd yn cael eu recordio.
Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda Gwasanaethau eraill ar draws y Cyngor a rhai cyrff allanol er mwyn darparu gwasanaeth i chi. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gyda chyrff allanol heb fod rhaid.
Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i Gyngor Gwynedd, yn unol â'r gyfraith, ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 7 mlynedd yn ein system cyfrifiadurol, os ydych wedi anfon e-bost atom, byddwn yn ei gadw am 12 mis.
Bydd recordiadau teledu cylch cyfyng (Siop Gwynedd Pwllheli, Dolgellau a Chaernarfon) yn cael eu cadw am gyfnod o 1 mis.
Byddwn yn cadw galwadau am gyfnod o 30 diwrnod, heblaw bod gofyn cyfreithiol i ni eu cadw am gyfnod hirach, bydd galwadau yn cael eu dileu yn awtomatig ar ôl 30 diwrnod.
Mwy o wybodaeth am eich hawliau, a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data’r Cyngor:
Cael mynediad i Ddata
Gallwch weld eich data drwy gais, i wneud hyn, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor (yn agor mewn tab newydd) .