Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae Dechrau’n Deg wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ein pwrpas ydi darparu gwasanaeth i oedolion a phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig yng Ngwynedd. Mae hyn yn golygu cynnig gofal plant o safon ar sail rhan-amser, gwasanaeth ymwelwyr iechyd ehangach, mynediad i raglenni rhiantu a chefnogaeth iaith a therapi.

Er mwyn cynnig gwasanaeth mae angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi a’ch teulu.

Wrth wneud hyn, rhaid i ni gadw at reolau diogelu data sef Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Y sail gyfreithiol rydym yn ei ddefnyddio i broses eich gwybodaeth bersonol ydi erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu i ni brosesu gwybodaeth bersonol pan fo angen gwneud hynny er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus.

Os ydi’r wybodaeth a roddir i ni yn cynnwys data categori arbennig e.e. gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, rydym yn defnyddio erthyglau 9(2)(g) a (h) y GDPR sy’n golygu ein bod ni’n prosesu gwybodaeth er budd cyhoeddus sylweddol ac am resymau iechyd.

Be ‘da ni angen a pham

Byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi, e.e. enw a chyfeiriad. Beth bynnag, fe fyddwn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth fwy manwl am anghenion datblygu ac anghenion dysgu ychwanegol eich plentyn. Rydym yn gwneud hyn er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau bosib i chi ac i wneud yn siŵr eich bod ni’n teilwrio’r gwasanaeth i’ch anghenion penodol chi.

Sut ‘da ni yn defnyddio eich gwybodaeth

Fe wnawn ni roi eich manylion ar ein system. Mi fyddwn ni hefyd yn rhannu eich gwybodaeth efo partneriaid perthnasol gan gynnwys y bwrdd iechyd, addysg, Barnardos a lleoliadau gofal plant sy’n rhan o’r cynllun.

Byddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth fesul achos a phan fo angen.

Am faint fyddwn yn cadw’r wybodaeth

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw am y cyfnodau cadw a nodir ar gyfer cyrff cyhoeddus.

Eich hawliau

Mae nifer o hawliau ar gael o dan deddfwriaeth diogelu data. Am fwy o wybodaeth am hyn a manylion Swyddog Diogelu Data’r Cyngor, ewch i Eich hawliau

Rhannu Gwybodaeth efo Llywodraeth Cymru

Byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch gyda Llywodraeth Cymru fel eu bod yn medru cynnal ymchwil a gwneud dadansoddiad ystadegol i wella’r cymorth sy’n cael ei ddarparu drwy’r cynllun.

Sail gyfreithiol

Y sail gyfreithiol i ni wneud hyn ydi erthygl 6(1)(e) o’r UK GDPR, sy’n caniatáu i ni brosesu gwybodaeth bersonol pan fo angen gwneud hynny er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus.

Os ydi’r wybodaeth yn cynnwys data categori arbennig e.e. gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, rydym yn defnyddio erthygl 9(2)(g) yr UK GDPR sy’n golygu ein bod ni’n prosesu gwybodaeth er budd cyhoeddus sylweddol.

Gwnawn hyn o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Pa wybodaeth fydd yn cael ei rannu

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhif NHS
  • Rhyw
  • Iaith y cartref
  • Anabledd rhiant
  • Dyddiadau cyswllt
  • Asesiadau plant
  • Cyrsiau rhiantu