Gallwch gyflwyno cwyn i Gyngor Gwynedd os ydych yn anhapus gyda:
- safon y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn gan Gyngor Gwynedd
- aelod o staff neu berson sy'n gweithredu ar ran y cyngor
- partneriaeth sydd gan y cyngor â pherson neu sefydliad arall
Diffiniad o gŵyn
Mae cwyn:
- yn fynegiant o anfoddhad neu bryder
- yn gallu bod ar lafar, yn ysgrifenedig, neu drwy unrhyw ddull arall
- yn gallu cael ei wneud gan un person neu fwy
- yn ymwneud â rhwybeth mae'r Cyngor wedi ei wneud neud heb ei wneud
- yn ymwneud â safon gwasanaeth
Y hyn sydd ddim yn cael ei ystyried yn gwyn swyddogol
Nid yw cwyn swyddogol yn golygu:
- adrodd am broblem am y tro cyntaf (er enghraifft twll yn y ffordd, cwyn am sŵn neu fin heb ei gasglu)
- cais cyntaf am wasanaeth
- gofyn am wybodaeth neu eglurhad
- anghytuno gyda pholisi'r Cyngor
- apelio yn erbyn penderfyniadau lle mae proses apêl swyddogol
- ceisio newid deddfau neu bolisïau
- hysbysiadau cosb neu ddirwyon
- cais dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
- cwyn sydd eisoes wedi’i hystyried
- cwyn sy’n cael ei ymchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn tab newydd)
I roi gwybod i ni am un o’r problemau uchod ewch i: Adrodd problem ar-lein
Polisi Cwynion
Mae’r manylion llawn am y drefn gwynion ar gael yn y polisi cwynion:
- Polisi Cwynion Cyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
- Polisi Cwynion - fersiwn hawdd ei ddarllen (yn agor mewn tab newydd)
Ymholiad neu gŵyn gyntaf
Fel arfer, gellir delio ag ymholiadau neu gwynion ar unwaith drwy gael gair â'r person neu'r adran sy'n darparu'r gwasanaeth. Gallai hyn fod yn dderbynnydd, staff yn y ganolfan hamdden leol, gyrrwr fan neu weithwyr ffordd.
Os oes gennych gŵyn gyffredinol, ymholiad neu sylw am Gyngor Gwynedd neu am wasanaethau’r cyngor, llenwch ein ffurflen ar-lein.
Ymholiadau cyffredinol ar-lein (yn agor mewn tab newydd)Gwneud cwyn ffurfiol
Os na lwyddoch chi i ddatrys eich ymholiad neu gŵyn ar y cynnig cyntaf, y ffordd gyflymaf o wneud cwyn ffurfiol yw ei chofnodi ar-lein.
Gwneud cwyn ffurfiol yn erbyn Cyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)Gallwch hefyd wneud cwyn ffurfiol drwy:
- Ffonio: 01766 771000
- Post: Swyddog Gwella Gwasanaeth, Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH.
Os yw eich cwyn yn ymwneud ag un o’r meysydd penodol isod, defnyddiwch y cysylltau canlynol: