Iwan G D Evans, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, ydy Swyddog Monitro’r Cyngor.

Mae gan y Swyddog Monitro gyfrifoldeb statudol i sicrhau fod y Cyngor yn gweithredu mewn ffordd gyfreithlon ac nad yw’n gwneud unrhyw beth allai fod yn gamweinyddu.

Os oes gennych gwyn ynglŷn ag unrhyw beth mae’r Cyngor wedi ei wneud defnyddiwch y Drefn Gwyno

Y Swyddog Monitro sydd hefyd yn gyfrifol am weithrediad y Cod Ymddygiad Aelodau (yn agor mewn tab newydd), y Pwyllgor Safonau ac am gynnal Cyfansoddiad y Cyngor

Os oes gennych gwyn fod un o’r cynghorwyr wedi torri’r Cod Ymddygiad cysylltwch â’r Swyddog Monitro neu gallwch wneud cwyn ffurfiol i’r Ombwdsmon (yn agor mewn tab newydd)

Manylion cyswllt:

Iwan G D Evans
Swyddog Monitro
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

01286 679015
IwanGDEvans@gwynedd.llyw.cymru