Os yw'r eiddo'n wag, a dim dodrefn ynddo, ni fydd Treth Cyngor yn daladwy am y 6 mis cyntaf o ddyddiad gwagio'r dodrefn (gweler eithriad dosbarth C).Pan ddaw'r cyfnod 6 mis hwn i ben, nid oes gostyngiad o gwbl a codir treth cyngor arno.
Os yw yn parhau yn wag ar ôl 6 mis pellach (sef 12 mis o`r dyddiad gwagio), mae Adran 12A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn cynnwys darpariaeth ddewisol i gynghorau i godi “premiwm” o ddim mwy na 300% ar eiddo gwag hir dymor.
Mae Cyngor Gwynedd wedi codi premiwm o 50% ar eiddo sydd wedi bod yn wag a diddodrefn dros 12 mis ers 1 Ebrill 2018, ac ymhellach wedi cynyddu hyn i 100% ers 1 Ebrill 2021.
O 1 Ebrill 2026, mae penderfyniad i gynyddu y premiwm hwn i 150%.
Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2026/27, penderfynodd Cyngor Gwynedd ar 4 Rhagfyr 2025:
- Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 150% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. yn cynyddu’r premiwm o 100% i 150%).
Gweld mwy o fanylion am y penderfyniad (yn agor mewn tab newydd).
Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n nodi eithriadau penodol lle na ellir gosod premiwm Treth Cyngor, rhestrir y rhai hynny isod:
| Dosbarthiadau o Eiddo | Diffiniad |
|---|---|
| Dosbarth 1 | Eiddo sy'n cael eu marchnata fel rhai ar werth - gyda therfyn amser o un blwyddyn |
| Dosbarth 2 | Eiddo sy'n cael eu marchnata fel rhai ar osod - gyda therfyn amser o un blwyddyn |
| Dosbarth 3 | Anecsau sy'n ffurfio rhan, neu sy'n cael eu trin fel rhan o'r prif eiddo |
| Dosbarth 4 | Eiddo a fyddai'n unig neu yn brif breswylfa rhywun sydd yn byw yn llety'r Lluoedd Arfog |
*Mae'r cyfyngiad amser o flwyddyn ar gyfer Dosbarth 1 a Dosbarth 2 yn effeithiol o'r dyddiad aeth yr eiddo ar y farchnad i fod ar werth neu ar osod, ac fe all hynny felly fod cyn dyddiad effeithiol unrhyw bremiwm.
Bydd premiwm o 100% yn cael ei godi o, neu ar ôl, 1 Ebrill 2021 - yn ddibynnol ar pryd mae 12 mis o ddyddiad y daeth yr eiddo yn wag yn dod i ben. Rhwng y cyfnod o 1 Ebrill 2018 a 1 Ebrill 2021 premiwm o 50% sydd yn berthnasol i unrhyw eiddo ble mae'r cyfnod o 12 mis yn dod i ben.
Byddwch angen gwybod y dyddiad pryd daeth eich eiddo yn wag – bydd dyddiad dechrau codi premiwm yn dibynnu ar hyn.
Cofiwch os oes ar unrhyw adeg yna rhaid i chi hysbysu y Cyngor gan y bydd yn effeithio yr uchod.
Tai gwag – help sydd ar gael
Os oes gennych eiddo gwag ac yn dymuno gwneud rhywbeth gyda'r eiddo ond angen cymorth, cysylltwch â Thîm Tai Gwag Cyngor Gwynedd