Tai Gwag

Gall tai sy’n wag achosi niwsans a difrod i dai cyfagos. Maent hefyd yn wastraff oherwydd gallent gael eu defnyddio fel cartrefi.

Gallwn roi cyngor i berchnogion tai gwag i’w helpu i wneud y tŷ’n addas i’w ddefnyddio eto.

Os yw’r perchennog yn gwrthod dod â’r tŷ’n ôl i ddefnydd neu’n peidio â thrwsio’r tŷ, gall y Cyngor:

  • Rhoi rhybudd i’r perchennog wneud y gwaith, a gwneud y gwaith ei hun os nad yw’r perchennog yn gwneud hynny.
  • Gorfodi gwerthu’r tŷ i ad-dalu rhai dyledion i’r Cyngor.

Cynlluniau tai gwag

Siop Un Stop Tai

Siop un Stop o holl wasanaethau tai Cyngor Gwynedd.