Cymorth ariannol mewn argyfwng
Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.
Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)
Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng os ydych:
- yn wynebu caledi ariannol difrifol
- wedi colli eich swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf
Mwy o wybodaeth a gwneud cais (yn agor mewn tab newydd)
Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)
Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw'n annibynnol yn ei gartref neu eiddo yr ydych chi neu'r unigolyn yn symud iddo.
Mwy o wybodaeth a gwneud cais (yn agor mewn tab newydd)
Credyd pensiwn
Gallai Credyd Pensiwn roi tua £3,900 y flwyddyn i chi ar gyfartaledd i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Hefyd, gallech gael y Taliad Tanwydd Gaeaf
Mwy o wybodaeth credyd pensiwn (yn agor mewn tab newydd)
Sgamwyr a siarcod benthyg arian
- Byddwch yn ofalus/wyliadwrus o sgamwyr
- Byddwch yn ofalus o siarcod benthyg arian (yn agor mewn tab newydd)
Cymorth a chyngor pellach
Os ydych chi'n cael trafferth, cysylltwch â ni neu un o'n hasiantaethau partner am gyngor a chymorth:
- CAB Gwynedd Citizens Advice (yn agor mewn tab newydd) - elusen sy'n rhoi cyngor cyfrinachol am ddim i helpu gyda materion cyfreithiol, dyledion, tai a llawer mwy.
Rhif ffôn CAB Gwynedd:- Bangor (01248) 510 922
- Caernarfon (01286) 424 922
- Dolgellau (01341) 707 922
- Pwllheli (01758) 383 922
- Help for Households - Get government cost of living support (yn agor mewn tab newydd)
Hybiau Cymunedol
Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am fwyd, ynni ac arian drwy’r hwb yn eich ardal lleol.