Ystyr sgam yw cynlluniau i'ch twyllo chi o'ch arian. Gallent gyrraedd trwy'r post, dros alwad ffôn, neges destun, ebost neu gan rhywun sydd yn dod i eich cartref. Dyma rai o’r triciau a ddefnyddir: loteri ffug, seicig ffug, buddsoddiadau i'ch gwneud yn gyfoethog yn gyflym a meddyginiaethau gwyrthiol i'ch gwella.
Rhybuddiwch rywun - addysgwch ffrind, cymydog neu berthynas ynglŷn â pheryglon sgamiau.
Cyngor ddefnyddiol
Mwy na thebyg ei fod yn sgam os:
Yw'r alwad, llythyr, e-bost neu neges testun yn annisgwyl
Nid ydych wedi clywed am y loteri neu'r gystadleuaeth maent yn ei drafod
Nid ydych wedi prynu tocyn loteri - dim tocyn, dim gwobr!
Maent yn dweud wrthych am ymateb yn sydyn fel nad ydych yn cael cyfle i gysidro neu i ofyn wrth deulu neu ffrindiau cyn i chi benderfynu
Maent yn dweud wrthych am ei gadw yn gyfrinach
Ymddangos eich bod yn cael rhywbeth yn rhad ac am ddim
Rhywbeth yn swnio yn rhy dda i fod yn wir – y tebygolrwydd yw ei fod!
Peidiwch byth a rhoi eich manylion cyswllt fel eich enw, rhif ffôn neu eich cyfeiriad i ddieithriaid neu i bobl sydd i fod gyda’r gwybodaeth yma yn barod.
Peidiwch byth a rhoi manylion eich hunaniaeth neu eich gwybodaeth ariannol, cyfrifon banc neu gardiau credyd i ddieithriaid neu i fusnes sydd gydag eich manylion personol yn barod.
Llarpiwch/ difrodwch unrhyw beth sydd gydag eich manylion personol neu fanc - peidiwch â’u taflu i ffwrdd.
Edrychwch ar du allan i bob darn o bost a phenderfynu os yw yn debygol o fod yn sgâm. Fel arfer ar yr amlen gwelir ‘winning documentation, confirmed cheque, guaranteed delivery of a cheque for £xxx,' taflwch y rhain heb eu hagor.
Yn fwy aml na dim daw'r post sgam o dramor e.e. Hong Kong, Yr Iseldiroedd, Las Vegas neu Awstralia. Os nad oes gennych deulu neu ffrindiau yn y gwledydd yma taflwch y post i ffwrdd heb eu hagor.
Peidiwch ag ymateb i bost sgam / digroeso, unwaith yr ydych wedi ymateb i un, bydd y cyfanswm o bost sgâm yn cynyddu.
Dinistriwch a thaflwch post sgam (ond cofiwch larpio eich manylion personol yn gyntaf)
Dros y Ffôn...
Peidiwch â rhoi eich manylion personol na manylion banc dros y ffôn
Peidiwch â chael eich llusgo i mewn i drafodaeth gyda galwr digroeso
Dywedwch ‘dim diolch’ a rhowch y ffôn i lawr
Gofynnwch i ffrindiau, cymdogion neu deulu os ydych gyda diddordeb mewn cynnig, fe allent eich cynorthwyo i weld os yw yn sgâm ai peidio
Drwy E-byst neu negeseuon testun...
Peidiwch â chlicio ar unrhyw linc sydd wedi dod gan gyswllt anhysbys neu os ydyw gan rywun yr ydych yn ei adnabod ond nad oes neges, dim ond linc.
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau ar-lein sydd gan asiantaethau swyddogol e.e. Llywodraeth, HMRC ayyb. Nid yw asiantaethau swyddogol yn e-bostio i ofyn am fanylion personol.
Anfonwch negeseuon testun 'sbam' i'ch darparwr ffôn symudol – Mae gan y rhwydweithiau mawr ffordd syml, rhad ac am ddim, i'ch helpu i wneud hyn. Anfonwch eich neges i 7726 (sy’n sillafu SPAM), gan sicrhau ei fod yn cynnwys rhif yr anfonwr.
Dileu a blocio e-byst sgam
Mae gan yr Uned Safonau Masnach nifer cyfyngedig o atalyddion galw a all fod ar gael i’r oedrannus a phobl sy'n agored i niwed.
Cofrestrwch AM DDIM gyda'r Gwasanaeth Dewis Post. Bydd hyn yn atal post sydd heb eich cyfeiriad chi arno, er enghraifft: papurau newydd am ddim neu bwndeli o daflenni hysbysebu. Ffôn: 020 7291 3300 Gwefan: www.mpsonline.org.uk
Rhowch wybod i'r Post Brenhinol am unrhyw sgam yr ydych wedi ei dderbyn trwy'r post. Ffôn: 08456 113 413 E-bost:scam.mail@royalmail.com (yn agor mewn tab newydd) Cyfeiriad: Scam Mail, PO Box 797, Exeter, EX1 9UN
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r sgamiau ar-lein diweddaraf er mwyn amddiffyn eich hun rhag cael eich twyllo. Am wybodaeth cyfredol ewch i'r gwefannau isod.