Ardal Ni: Cynlluniau Adfywio Lleol

Bwriad Fframwaith Adfywio Gwynedd yw sicrhau bod camau rhagweithiol yn eu lle er mwyn sicrhau cydweithio i wella ardaloedd yn economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol ac yn ddiwylliannol.

Ein gweledigaeth yw datblygu a chefnogi cymunedau cynaliadwy sy’n iach, llewyrchus ac egnïol gyda’r hyder i fentro, a gyda’r awydd a’r gallu i gyfrannu eu hatebion eu hunain i anghenion lleol ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

Yn rhan o’r Fframwaith mae’r sir wedi ei rhannu yn 13 Ardal Adfywio Lleol a chynllun gweithredu wedi ei greu ar gyfer pob un o’r ardaloedd.

Bydd y cynlluniau yn ddogfennau byw a fydd yn cael ei diweddaru'n flynyddol yn dilyn sgyrsiau parhaus gyda rhanddeiliaid yn y cymunedau lleol.

Mae’r cynlluniau gweithredu yn adnabod prosiectau sy’n ymateb i flaenoriaethau lleol.

Cynlluniau gweithredu

Mae'r cynlluniau gweithredu yn seiliedig ar broses ymgysylltu a gafodd ei chynnal yn ôl yn 2022.

Gweld mwy o wybodaeth am y gwaith ymgysylltu 'Ardal Ni'