Trwy'r cynllun Prynu i Osod, mae'r Cyngor yn prynu tai ar y farchnad agored i'w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy. Nod y cynllun yw cynyddu'r nifer ac ystod o dai fforddiadwy o safon sydd ar gael o fewn y Sir.

Mae’r Cyngor yn cydweithio ag Adra (yn agor mewn tab newydd) ar y cynllun hwn, gydag Adra yn cymryd cyfrifoldeb am reoli eiddo ar ran y Cyngor.

Mae'r cartrefi ar gael i unigolion sy'n bodloni meini prawf Tai Teg. I’r rhai sydd â diddordeb, cofrestru gyda Tai Teg yw’r cam cyntaf i wneud cais am dŷ.

Mynd i wefan Tai Teg (yn agor mewn tab newydd)

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y Cyngor yn ystyried prynu eiddo ar draws Gwynedd sy'n cwrdd â meini prawf arbennig, gan gynnwys cwrdd ag anghenion ardaloedd penodol, gwerth a chyflwr yr eiddo.

Mae'r cynllun hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai (yn agor mewn tab newydd) Cyngor Gwynedd, sy'n anelu at ddarparu dros 1000 o gartrefi i bobl Gwynedd yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r cynllun Prynu i Osod yn anelu’n benodol at gyfrannu 100 o gartrefi at y targed hwn.

Siop Un Stop Tai

Siop un Stop o holl wasanaethau tai Cyngor Gwynedd.