Cynllun Lesu Cymru - Gwynedd

P'un a ydych yn landlord profiadol â sawl eiddo neu wedi dod yn berchen ar eiddo yn ddiweddar, efallai trwy berthynas neu newid amgylchiadau, gallai Cynllun Lesu Cymru fod yn addas i chi.

Mae Cynllun Lesu Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Awdurdodau Lleol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i chi lesu eich eiddo i Gyngor Gwynedd, ac fe gewch sicrwydd o incwm rhent misol didrafferth.

Manteision i berchnogion eiddo yng Ngwynedd

  • Incwm rhent gwarantedig didrafferth am hyd y les (ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol Gwynedd) – sy'n golygu na fydd unrhyw ôl-ddyledion rhent na chyfnodau pan fydd yr eiddo’n wag.
  • Grant o hyd at £25,000 i ddod â'r eiddo i safon rhentu.
  • Grant o hyd at £5,000 i gynyddu sgôr ynni eich eiddo (yn amodol ar gymhwysedd ac argaeledd).
  • Lesoedd rhwng 5 ac 20 mlynedd.
  • Archwiliadau eiddo, atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw (ar gyfer traul rhesymol i’r eiddo).
  • Rheolaeth lawn o'r eiddo a'r tenant am oes y les.

Mynegi diddordeb

Gallwch fynegi eich diddordeb yn y cynllun drwy lenwi'r ffurflen ar-lein:

Cynllun Lesu Cymru - mynegi diddordeb (yn agor mewn tab newydd)

Cysylltwch â'ch tîm lleol arbenigol o Uwch Swyddogion Datblygu Eiddo.

Mae ein tîm Uwch Swyddogion Datblygu Eiddo yn barod i dderbyn eich galwad a gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynllun. Unwaith y byddwch wedi penderfynu a yw'n addas i chi, gallwn wedyn helpu i'ch tywys drwy’r gweddill.