Mae tŷ canol teras gyda 3 ystafell wely dros 3 llawr wedi ei ddatblygu trwy gynllun Tŷ Gwynedd, Cyngor Gwynedd ar safle Coed Adda ym Mangor ar gael i’w brynu trwy Gynllun Rhannu Ecwiti.

Mae’r eiddo yn cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, tŷ bach lawr grisiau, cyntedd, gofod storio, 3 llofft, ardal swyddfa, ystafell ymolchi, ystafell gawod a chwpwrdd cynnes. Yn ogystal, mae gardd i bob tŷ ac ardal parcio.

Pris farchnad agored- £275,000

Llun o'r awyr o ystâd dai Coed Adda
Llun o'r awyr o ystâd dai Coed Adda

Gweld mwy o luniau o'r eiddo


Gwneud cais

Dyddiad cau cyflwyno cais: 12pm, 2 Rhagfyr

I ddechrau'r broses ymgeisio ar gyfer yr eiddo hwn, llenwch y ffurflen gais:
Ffurflen Gais Tŷ Gwynedd (Cam 2) (yn agor mewn tab newydd)

Gweld mwy o wybodaeth am y broses o wneud cais


Lluniau o'r eiddo

Cegin
Llun 1 - Coed Adda
Ystafell fyw
Llun 2 - Coed Adda

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynllun Tŷ Gwynedd neu os hoffech drafod eich amgylchiadau a’ch anghenion tai, cysylltwch â’r Siop un Stop Tai:

Cysylltu â ni: Siop Un Stop Tai

Siop un Stop o holl wasanaethau tai Cyngor Gwynedd.