Os ydych chi mewn argyfwng ac yn ddigartref ar hyn o bryd, cysylltwch â’r gwasanaeth digartrefedd:
01286 685100
digartref@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)
(yn cael ei fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)
Gallwn asesu eich anghenion a thrafod y gefnogaeth sydd ar gael.
Os ydych angen help i atal digartrefedd neu i gynnal amgylchiadau tai mwy sefydlog mae cefnogaeth ar gael.
Sut ydw i’n cael cefnogaeth?
Mae cymorth tai ar gael i unrhyw un 16+ yng Ngwynedd.
Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol neu ofyn i rhywun arall gysylltu â ni ar eich rhan.
Cysylltwch â:
Pa fath o gefnogaeth sydd ar gael?
Dyma enghreifftiau o’r cymorth sydd ar gael:
- Help gyda phroblemau dyledion a rheoli arian.
- Help rheoli tenantiaeth a chymorth i setlo a chynnal a chadw cartref.
- Cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau.
- Cefnogaeth i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Help gyda materion iechyd meddwl.
- Mynediad i eiddo cefnogol.
- Helpu i ddeall, darllen a llenwi ffurflenni, llythyrau a biliau.
- Cymorth i ddatblygu sgiliau byw ymarferol.
- Cefnogaeth i chwilio am waith, hyfforddiant a chyflogaeth.
- Cefnogaeth i ymuno â chymunedau a grwpiau lleol.
- Cefnogaeth i gysylltu ag asiantaethau.
- Helpu i ailadeiladu perthnasoedd.
- Cefnogaeth i ddod o hyd i lety addas.
Mwy o wybodaeth
Mae'r gwasanaeth yma’n cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai (yn agor mewn tab newydd) Llywodraeth Cymru, sy’n comisiynu ac ariannu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n atal pobl rhag mynd yn ddigartref, sefydlogi eu sefyllfa dai, neu'n helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw.