Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cysgu allan pan fydd y Protocol yn cael ei weithredu, cysylltwch â Chyngor Gwynedd a gofynnwch am y Gwasanaeth Digartrefedd drwy ffonio 01286 685100.
Gallwch hefyd ddefnyddio StreetLink (yn agor mewn tab newydd) os ydych eisiau rhoi gwybod i ni am rywun sy’n cysgu ar y stryd.
Beth yw’r Protocol Tywydd Garw?
Mae’r Protocol yn cael ei weithredu mewn ymateb i ragolygon tywydd garw, megis tywydd oer iawn, glaw neu eira trwm, gwyntoedd cryfion neu amodau peryglus eraill sy’n peri risgiau iechyd sylweddol i’r rhai sy’n cysgu allan.
O dan y Protocol hwn, bydd unrhyw un sy’n cyflwyno’n ddigartref yn cael cynnig lle i aros nes i’r cyfnod o dywydd eithafol ddod i ben.
Beth sy'n digwydd pan mae’r Protocol yn cael ei weithredu?
Ynghyd â’r camau arferol pan fydd rhywun yn cyflwyno’n ddigartref i’r Cyngor, mae’r canlynol yn digwydd:
- Bydd Cyngor Gwynedd yn rhannu’r neges ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook (yn agor mewn tab newydd), X (yn agor mewn tab newydd) a Blue Sky (yn agor mewn tab newydd))
- Bydd swyddogion yn gweithio gyda’n partneriaid i rannu’r newyddion bod y Protocol ar waith i sicrhau fod pawb sydd ei angen yn derbyn cefnogaeth a llety.
Cefnogaeth i bobl sy’n profi digartrefedd
Mae’n bwysig deall mai mesur brys dros dro yw’r Protocol Tywydd Garw, sy’n cael ei weithredu yn ystod tywydd eithafol yn unig.
Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi pobl sy'n profi digartrefedd trwy gydol y flwyddyn. Os ydych yn ddigartref / cysgu allan ar hyn o bryd, neu os ydych yn poeni am rywun arall, cysylltwch â ni:
- 01286 685100
- digartref@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd) (cael ei fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)
Gallwn asesu eich anghenion a thrafod y gefnogaeth sydd ar gael.