Peryglon llifogydd a chyfrifoldebau

Os ydych yn byw neu'n gweithio yn agos at gwrs dŵr a o fewn y gorlifdir naturiol, mae perygl y gall llifogydd afonol fygwth eich eiddo neu eich gweithle.

Gall llifogydd hefyd effeithio ar ardaloedd sydd i ffwrdd o'r gorlifdir naturiol. Gall stormydd cryfion fod yn ormod straen ar allu'r system ddraenio leol neu droi'r tir yn gors gan roi llawer mwy o gartrefi, busnesau a phobl mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb, dŵr daear ac o gwrs dŵr. Mae sawl ffynhonnell llifogydd a fedrai fod yn berygl i drigolion sy'n cynnwys:

  • Llifogydd arfordirol - yn digwydd pan fo tir sych, isel fel arfer yn gorlifo gan ddŵr môr naill ai yn ystod adegau pan fo llanw uchel a/neu oherwydd fod tonnau yn dod drosodd
  • Llifogydd afonol - yn digwydd pan fo glawiad eithafol dros gyfnod estynedig o amser yn achosi i afon fynd dros ei glannau a gorlifo i'r gorlifdir cyfagos
  • Llifogydd dŵr wyneb - achosir hyn gan ddŵr storm yn cronni ar arwynebau, yn aml pan fo'r arwynebau yma'n rhai gyda phalmant caled neu ble fo gormod o law yn syrthio i'r pridd fedru ymdopi
  • Llifogydd dŵr daear - pan fo'r lefel trwythiad; lefel y dŵr o dan ddaear, yn codi uwchben wyneb y ddaear.  Yn ystod glawiad trwm, gall lefel y dŵr yn y ddaear godi cymaint fel ei fod yn achosi llifogydd mewn isloriau, neu gall dŵr daear sy'n dod i'r wyneb achosi niwed i eiddo a seilwaith.
  • Llifogydd cronfeydd dŵr - yn dilyn o fethiant strwythurau i ddal dŵr y gronfa yn ôl (e.e. argaeau, waliau cynnal). Dyma'r ffynhonnell perygl sydd fwyaf annhebygol i unrhyw eiddo oherwydd y rheoliadau llym a'r trefniadau cynnal a chadw a ddefnyddir gan weithredwyr cronfeydd dŵr.

Defnyddiwch fapiau rhyngweithiol CNC (yn agor mewn tab newydd) i ddysgu am beryglon o lifogydd ac am wybodaeth am berygl llifogydd.

Mae'r Cyngor hwn yn gweithio gyda sefydliadau partner i reoli perygl llifogydd yng Ngwynedd er mwyn lleihau'r dinistr y sy'n cael ei achosi.

Cyfrifoldebau perygl llifogydd

Mae gan nifer o gyrff gyfrifoldebau statudol i reoli perygl llifogydd yng Ngwynedd, yn unol â Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010. Gelwir y cyrff yma'n awdurdodau rheoli risg (RMAs) sy'n cynnwys:

Cyfrifoldebau eraill

Er bod y cyrff hyn yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd o'u tarddiad, nid nhw sy'n atebol am unrhyw ddifrod mae llifogydd yn eu hachosi. Perchnogion eiddo sy'n gyfrifol am amddiffyn eu heiddo rhag llifogydd, ynghyd â'u hawliau a'u cyfrifoldebau fel perchnogion eiddo ar lan afon.

Perchnogion Eiddo ar lan afon yw'r perchnogion tir sy'n agos i gwrs dŵr ac mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae o ran rheoli risg llifogydd yn nalgylch afon. Mae perchnogion eiddo ar lan afon yn gyfrifol am:

  • gynnal a chadw gwelyau a glannau afonydd
  • caniatáu i ddŵr lifo heibio yn ddi-rwystr
  • rheoli rhywogaethau ymwthiol fel Llysiau’r Dial

Dylai perchnogion eiddo ar lan afon hefyd wneud yn siŵr nad oes dim ar eu tir a fedrai gael ei olchi ymaith gan lif dŵr uchel gan achosi rhwystr yn nes i lawr yr afon.

Darllenwch fwy ynglŷn ag hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glannau afon (yn agor mewn tab newydd) yng nghanllaw'r CNC.

Mae gan unigolion gyfrifoldeb personol i fod yn ymwybodol o lefel y risg lle maent yn byw, i gynllunio yn effeithiol i warchod eu hunain a'u heiddo rhag niwed llifogydd.

Cyngor ynglŷn â pharatoi ar gyfer adegau o lifogydd.