Paratoadau llifogydd personol

Mae gallu Cyngor Gwynedd i weithio gyda thrigolion lleol a phartneriaid eraill yn gyfyngedig i ymchwilio i unrhyw ffyrdd y gallwn ostwng tebygolrwydd y llifogydd gwaethaf neu amlaf. Er hynny, mewn sawl achos mae atal yn amhosibl.

Rydym yn eich annog i ystyried yr hyn fedrwch chi wneud i wrthsefyll llifogydd fel cam cyntaf. Gwarchod eich cartref ydi gwrthsefyll, felly os bydd llifogydd, bydd unrhyw ddifrod wedi ei gyfyngu er mwyn eich dychwelyd i'ch cartref cyn gynted â phosib.

Cadw dŵr llifogydd allan o'ch eiddo

Mae'n bwysig meddwl am ffyrdd o gadw dŵr llifogydd allan o'ch eiddo, neu o leiaf arafu cyflymder y dŵr sy'n dod i'ch cartref fel bod mwy o amser i chi symud pobl a phethau i le diogel.

Gall dŵr fynd i mewn i eiddo drwy ddrysau, ffenestri, brics awyru neu fel dŵr daear drwy loriau. Gallwch atal dŵr rhag dod i mewn drwy osod cynnyrch arbenigol fel giatiau llifogydd a osodir ar derfyn eich eiddo neu'n union o flaen pwyntiau mynediad diamddiffyn, neu frics awyru 'smart' pwrpasol sy'n cyfyngu dŵr llifogydd rhag treiddio. Mae modd adeiladu waliau efo bagiau tywod o flaen drysau i ail-gyfeirio dŵr llifogydd. Rydym ni'n cynghori trigolion sydd mewn perygl i gadw eu stoc eu hunain ohonynt.

Am fwy o fanylion am gynnyrch atal llifogydd defnyddiol, cysylltwch â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd) neu defnyddiwch y Cyfeiriadur Tudalennau Glas y Fforwm Llifogydd (yn agor mewn tab newydd).

Cyfyngu'r difrod posib i'ch eiddo a'ch pethau

Ail ran gwrthsefyll llifogydd yw cyfyngu'r difrod posib i'ch eiddo a'ch pethau mewn sefyllfa o ddŵr yn gorlifo i'ch eiddo.

Mae hyn yn cynnwys cael lloriau sy'n gwrthsefyll dŵr fel concrid neu loriau teils ac arwynebau cegin sy'n gwrthsefyll dŵr sy'n hawdd eu diheintio.

Ystyriwch symud plygiau soced fel eu bod yn uwch ar y wal i leihau'r risg o ddifrod a chael dodrefn ysgafn sy'n hawdd i'w symud.

Mae cymryd amser i baratoi fel eich bod yn medru gwrthsefyll llifogydd yn gallu:

  • lleihau difrod llifogydd
  • lleihau'r amser y byddwch yn gorfod aros allan o'ch cartref ar ôl llifogydd
  • cyfyngu cost gwaith atgyweirio ar ôl llifogydd
  • lleihau cost yswiriant, neu gwneud yn siŵr bod eich eiddo yn parhau i gael yswiriant
  • darparu amddiffyniad rhag dŵr llifogydd
  • rhoi mwy o dawelwch meddwl i chi pan fydd hi'n glawio'n drwm

Am fwy o wybodaeth am wrthsefyll llifogydd, cysylltwch â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd) neu darllenwch ddogfen ganllaw CNC Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd (yn agor mewn tab newydd)

Cynllunio ar gyfer argyfwng

Cysylltu â ni:

Gallwch ffonio Cyngor Gwynedd 24 awr y dydd ar 01766 771000 neu ewch i'r dudalen: Argyfwng

I gael rhagor o gyngor ar sut i baratoi ar gyfer argyfwng cysylltwch â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd) neu ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru: Paratoi ar gyfer llifogydd (yn agor mewn tab newydd)