Teithio o le i le

Mae sawl dewis a gwasanaeth ar gael i chi o ran teithio os ydych yn cael trafferth mynd o le i le.

Tocynnau teithio

Mwy o wybodaeth am wahanol docynnau teithio sydd ar gael i’ch helpu:


Cludiant cymunedol

Mae cludiant cymunedol yn cynnig gwasanaeth i bobl sy’n ei chael yn anodd defnyddio cludiant cyhoeddus oherwydd anabledd neu broblem symud. Gallech gael help i fynd i’r dref i wneud eich siopa’n wythnosol neu fynd at y doctor.

  • Barbara Bws Gwynedd:  gwasanaeth i’r rheiny na all symud o gadair i gerbyd. Wedi lleoli yn Criccieth, Pwllheli, Bangor.
    Ffôn: 07484 223 696
  • Cymrod:  cymorth cludiant i bobl anabl, hŷn a bregus yn ardal Dwyfor.
    Ffôn: 01758 614311
  • O Ddrws i Ddrws Nefyn:  gwasanaeth i bobl hŷn neu anabl na all gyrraedd cludiant cyhoeddus yn ardal Penrhyn Llŷn.
    Ffôn: 01758 721777
  • Yr Orsaf, Penygroes: cludiant cymunedol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a gwasanaeth ceir gwirfoddol yn gweithredu yn Nyffryn Nantlle. Ffôn: 07529 224989
  • Y Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog: cludiant ar gael ar gyfer siopa ac apwyntiadau iechyd ym Mlaenau Ffestiniog a'r cymunedau cyfagos.
    Ffôn: 01766 830082
  • Partneriaeth Ogwen, Bethesda: gwasanaeth hygyrch i gadeiriau olwyn ar gael i drigolion Dyffryn Ogwen ar gyfer teithiau iechyd, siopa neu gymdeithasol.
    Ffôn: 01248 602131

Mae gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau bws a thrên lleol ac amserlenni yn adran Parcio, ffyrdd a theithio