Cymorth i addasu'r cartref

Mae llawer o gymorth ar gael i addasu’ch cartref i wneud bywyd yn haws i’r unigolyn a’r gofalwr.

Offer i helpu person i fyw yn annibynnol

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr offer sydd ar gael i wneud bywyd bob dydd yn haws yn yr adran Help i Fyw yn Annibynnol ar y wefan hon. Gallwch ddod o hyd i gyngor i helpu'r person rydych yn gofalu amdano efo anawsterau y maent yn eu wynebu yn:

  • Y cartref – e.e. yr ystafell ymolchi, grisiau, yr ystafell fyw, yr ardd.
  • Gweithgareddau bob dydd- e.e. siopa, gwisgo, paratoi bwyd.
  • Eu iechyd – e.e. rheoli meddyginiaeth, diogelwch yn y cartref, golwg a chlyw.

Mwy o wybodaeth: Help i fyw'n annibynnol


Grant cyfleusterau i bobl anabl

Mae’r Grant yma ar gyfer addasu eich cartref i hwyluso mynediad a symudedd o gwmpas y tŷ:

Mwy o wybodaeth: Grant Cyfleusterau i bobl anabl


Grantiau eraill

Mae Grantiau eraill ar gael, megis Grant Galluogi. Mae’r Grant yma yn llai o ran swm, ond nid oes angen prawf modd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’ch Therapydd Galwedigaethol neu Weithiwr Cymdeithasol

Cysylltu â ni


Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn

Mae Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn yn gallu gwneud mân addasiadau er mwyn hwyluso mynediad yn bennaf.

Cysylltu â Gofal a Thrwsio (yn agor mewn tab newydd)